Mynnwch wahardd glo yng Nghymru
Published: 6 Nov 2024

Mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd camau cadarnhaol i ymrwymo i ddyfodol heb danwyddau ffosil yng Nghymru. Ond mae eu polisi glo yn caniatáu cloddio am lo “mewn amgylchiadau cwbl eithriadol’ – man gwan y gall cwmnïau sy’n dinistrio’r hinsawdd fanteisio arno.
Cwmnïau fel Bryn Bach Coal, sy’n gwneud cais i ymestyn glo brig yng Nglan Lash, Sir Gaerfyrddin. Ac ERI Ltd, sy’n gwneud cais i gloddio am filoedd o dunelli bob blwyddyn o byllau glo ym Medwas. Os caiff hyn ei gymeradwyo, gallai osod cynsail peryglus, gan dywys diwydiant glo arall trwy’r drws cefn.
Mae uchel lysoedd yn Lloegr a Gogledd Iwerddon wedi diystyru ceisiadau cynllunio ar gyfer safleoedd tanwydd ffosil. Ac eisoes, mae gan yr Alban waharddiad effeithiol ar gloddio am lo.
Dim ond un ffordd sydd ar gael i roi stop ar ragor o gynigion. Mynnwch wahardd echdynnu glo yng Nghymru heddiw.