Play it Again Sport yn gwneud chwaraeon yn hygyrch

Published: 4 Nov 2021

Llun o Natasha Burnell

Gan Natasha Burnell
Rheolwr Menter, Play it Again Sport

Mae Play it Again Sport yn fenter gymdeithasol â chenhadaeth - neu sawl cenhadaeth wahanol - ac yn ddiweddar, cafodd grant gan People's Postcode Lottery, ac ennill Gwobr Effaith Gymdeithasol, Ymgysylltu ac Addysg BASIS (2021).

Play it Again staff  with children

 

Atal citiau ac offer chwaraeon rhag cyrraedd safleoedd tirlenwi? Ie.

Cael gwared ar rwystrau ariannol i gymryd rhan mewn chwaraeon? Ie.

Darparu gweithgareddau chwaraeon fforddiadwy, fel arfer am ddim, yn Rhondda er mwyn gwella iechyd a llesiant? Ie!

Ni yw’r unig fenter gymdeithasol sy’n ailgylchu citiau chwaraeon yn y DU. Eisiau gwybod mwy? Darllen ymlaen... 

 

Dillad cynaliadwy? Ble...? 

Mae sylw mawr wedi cael ei roi ar ffasiwn cyflym a’r diwydiant dillad ers blynyddoedd, ac mae’n anodd iawn dod o hyd i newid sylweddol o fewn y diwydiant.

Mae mynyddoedd o ddillad yn cael eu prynu bob dydd gan lethu elusennau, ac mae llawer o gyfraniadau bellach yn mynd i safleoedd tirlenwi, llosgi neu i wledydd eraill, yn hytrach na chael eu gwerthu a’u defnyddio eto.

Efallai na allem stopio ffasiwn cyflym, ond mae gennym ddatrysiad ar gyfer citiau ac offer chwaraeon yn Rhondda Cynon Taf. 

 

Y Rhondda

Mae Rhondda yn dal i deimlo’r effeithiau o gau pyllau glo ar ddiwedd yr 20fed ganrif. Mae diffyg buddsoddi yn yr ardal. Mae lefelau diweithdra a salwch yn uchel iawn, ac mae nifer o bobl yn dibynnu ar fudd-daliadau.

Mae lefelau gweithgaredd corfforol yn isel, sy’n cyfrannu at lefelau uchel o ordewdra. 

Yn Play It Again Sport, rydym yn ceisio mynd i’r afael â’r problemau hyn. 

 

Rydym yn cymryd citiau ac offer chwaraeon diangen, eu hatal rhag mynd i safleoedd tirlenwi a defnyddio cerbyd trydanol i gasglu a dosbarthu’r cyfraniadau hyn i leihau ein hôl-troed carbon.

Mae’r nwyddau’n cael eu gwerthu am brisiau fforddiadwy i gael gwared ar rwystrau ariannol i bobl sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon.

Rydym yn defnyddio’r arian a godwyd o’r gwerthiannau hyn i gynnig gweithgareddau chwaraeon a llesiant am ddim ledled Rhondda.

Yn ystod y sesiynau hyn, rydym yn siarad gyda phobl am ein heffaith ar yr amgylchedd a sut i ddilyn ffyrdd o fyw sy’n fwy cynaliadwy.

 

Gwneud chwaraeon yn hygyrch

Dylai pawb allu cymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n rhoi hwb i’w iechyd a’u llesiant, felly rydym yn ceisio gwneud ein sesiynau mor gynhwysfawr â phosib.

Mae gennym grŵp rhedeg, grŵp rygbi cerdded, dau grŵp cerdded i wahanol alluoedd, sesiwn chwaraeon hygyrch, clwb llyfrau, sesiynau codi sbwriel a sesiynau chwaraeon mewn ysgolion.

Mae pandemig COVID-19 wedi dangos bod ymarfer corff a chyswllt cymdeithasol yn holl bwysig i’n hiechyd meddwl, felly rydym yn adeiladu ar hynny.

Mae pobl sy’n fwy actif yn bobl hapusach, ac mae cymuned fodlon sy’n ymgysylltu yn elwa unigolion, teuluoedd, ffrindiau, cysylltiadau gweithio a thu hwnt. 

 

Photo

Ailgylchu, ail-ddefnyddio... 

Rydym yn gwneud ein gorau glas i beidio â gadael i unrhyw beth fynd i safle tirlenwi.  Er enghraifft, mae ReRun Clothing wedi ein dysgu ni i drwsio esgidiau ymarfer er mwyn iddynt bara’n hirach. Rydym yn gweithio gyda grwpiau crefft lleol i droi crysiau-t yn gadwyni gwddf ac rydym yn trosglwyddo unrhyw eitemau nad ydynt yn ymwneud â chwaraeon i grŵp dillad cymunedol.

 

Drwy arbenigo mewn dillad chwaraeon gallwn gau’r cylch, cyflenwi citiau chwaraeon fforddiadwy a sesiynau am ddim i’r rheiny sydd eu hangen fwyaf.      

 

...ac atgyweirio! 

hyrwyddo cynaliadwyedd yn Rhondda.

Yn ddiweddar, rydym wedi gweithio gyda Chymdeithas Tai Rhondda, Croeso i'n Coedwig ac Ymddiriedolaeth Pentref Cambrian i agor caffi trwsio yn Rhondda.

Mae’r gwaith yn cael ei gefnogi gan Gaffi Trwsio Cymru, a chynhaliwyd Caffi Trwsio cyntaf Rhondda ddydd Sadwrn 16 Hydref. Bydd rhagor o gaffis trwsio yn cael eu cynnal ar y trydydd dydd Sadwrn o bob mis (ac eithrio mis Rhagfyr) mewn lleoliadau gwahanol. Mae gwirfoddolwyr yn dod at ei gilydd i rannu eu sgiliau, atgyweirio pethau am ddim fel nad yw pobl yn gwario arian ac atal eu pethau rhag mynd i safle tirlenwi, gan ategu ethos Play It Again Sport mewn cyd-destun gwahanol. Am ragor o wybodaeth ewch i https://www.facebook.com/RepairCafeRhondda.

Drwy wneud hyn, rydym yn gobeithio tyfu ac amrywio, a gwella cyfleoedd i bobl fod yn fwy gwyrdd ac yn fwy iach. 

  

 

Ein dymuniad 

Yn ogystal â bod yn brif ganolfan i ddillad chwaraeon diangen yn Rhondda, rydym eisiau defnyddio ein llais i ymgyrchu dros newid i wneud chwaraeon yn fwy cynaliadwy a chynhwysfawr.

Ein casbeth yw defnyddio crysau-t rasio fel gwobrau; mae cyrsiau-t sydd wedi’u gorchuddio â dyddiadau a lleoliadau digwyddiadau yn amhosib i’w gwerthu, felly mae’n rhaid eu hail-bwrpasu.

Gan amlaf, maent wedi’u gwneud â neilon neu bolyester, felly mae’n anodd eu hailgylchu - nid yw’r dechnoleg ar gael yn eang eto er mwyn eu troi nhw’n ôl yn ddeunydd y gellir ei ailddefnyddio. Ond nid yw eu hailgylchu yn ddatrysiad, gan fod y ffabrigau hyn yn rhyddhau meicro-blastigau i mewn i’n system ddŵr bob tro maent yn cael eu golchi. 

Drwy herio darparwyr rasys ac annog mwy o ddigwyddiadau i gofrestru i Tees not Trees, rydym yn gobeithio lleihau nifer y dillad chwaraeon diangen sy’n cael eu cynhyrchu er mwyn datrys y broblem graidd. 

 

Sut i gyfrannu

Er bod ein gweithgareddau wedi eu lleoli yng Nghymoedd y Rhondda, mae gennym safleoedd cyfrannu ym mhob canolfan hamdden yn Rhondda Cynon Taf, ac rydym yn croesawu cyfraniadau o bob cwr o’r DU.

Cofiwch gysylltu os hoffech roi eich cit i ni - ein hunig amod yw bod yn rhaid gallu ei ddefnyddio a heb ei ddifrodi. 

 

 

 

Share this page