Dillad, pa mor wael allan nhw fod...iawn?

Published: 24 May 2019

Photo of Helen Sullivan

Blog by Helen O’Sullivan
Sustainable Fashion Wales

A blog from Blog by Helen O’Sullivan from Sustainable Fashion Wales

Rwy'n ysgrifennu hwn ddiwrnod cyn Diwrnod Amgylchedd y Byd 2019, pan mae'r angen am ddiwydiant ffasiwn tryloyw a cynaliadwy mor fawr ag y bu erioed. Mae'n mynd â fi nôl 15 mlynedd i pan glywais y term "Ffasiwn Gynaliadwy" gyntaf erioed". Ond beth oedd o'n olygu mewn gwirionedd? Ai gair newydd y cyfnod am ddillad drud oedd wedi eu cynhyrchu'n fwy moesegol oedd o? Ac roedd y myfyriwr ffasiwn ynof yn meddwl: “Ych a fi, pam ei fod o i gyd yn edrych yn llwydfelyn?” Oedd o gyn bwysiced â hynny? Wedi'r cyfan, dim ond dillad ydyn nhw. Pa mor wael allan nhw fod...Iawn?

 

"Datrysiad dros-dro yw prynu dillad rhad"

Gosodais her i fi fy hun i beidio prynu dillad newydd am o leiaf 3 mis nôl yn 2005. Ymgymerais â'r her fel gwaith ymchwil ar gyfer fy nhraethawd hir ar ôl darllen am y defnyddwyr cyfoes yn colli eu cyswllt emosiynol gyda dillad, fel fu'r achos dros y cannoedd o flynyddoedd cynt. Gwrthodais brynu o siopau'r stryd fawr, dim ond o siopau elusen, gan bersonoli a gwneud eitemau fy hun o'r rwtsh rhad gwerthfawr! Fy nod oedd defnyddio'r arian y byddwn wedi ei wario ar ffasiwn rhad, i brynu dillad organig neu Fasnach Deg ar ddiwedd y 3 mis. Doedd gen i ddim syniad faint y byddai'n newid fy agwedd at ffasiwn am byth. Sylweddolais yn sydyn mai datrys pethau dros dro lle mae'n hanghenion seicolegol ac emosiynol yn y cwestiwn mae prynu dillad rhad. Dechreuais ddarganfod y cyswllt emosiynol newydd oedd gen i gyda'r dillad yr oeddwn yn eu creu neu eu haddasu, ac wrth gwrs yr eitemau drud rheiny yr oedd rhaid imi gynilo i'w prynu. Dysgais yn sydyn na ddylai ffasiwn fod yn nwydd rhad a thafladwy sy'n wybyddus fel "ffasiwn cyflym". Dechreuais holi fy hun "Os nad ydw i'n talu pris call am fy nillad...pwy sydd?"

 

"Anaml iawn y teimlwn gyswllt â'n dillad ac yn aml rydym yn cael gwared arnynt"

Mae'r diwydiant ffasiwn yn effeithio arnom i gyd a'r dillad a wisgwn yn ein cysylltu'n fyd-eang. Fodd bynnag, ychydig iawn o ystyriaeth a roddir i'r amgylcheddau lle mae'r dillad hyn yn cael eu prosesu a'u gweithgynhyrchu. Mae adroddiadau diweddar megis Stacey Dooley Investigates a Fixing Fashion Y Pwyllgor Awdit Amgylcheddol, yn awgrymu mai'r diwydiant ffasiwn yw un o lygrwyr pennaf y blaned. Y rheswm am hyn yw mai anaml iawn y teimlwn gyswllt â'n dillad ac yn aml fe gawn wared arnynt heb feddwl ddwywaith. Ychydig iawn o ystyriaeth a roddir i'r bobl a'r prosesau sy'n ymwneud â'u cynhyrchu, ac felly fe anwybyddir cylch bywyd cyfan ein dillad.

 

Mae gan gylch y diwydiant ffasiwn dri phrif gam:

Cynhyrchu. Defnyddio. Diwedd oes.

 

CYNHYRCHU

Mae oddeutu 90 miliwn tunnell o decstilau yn cael eu cynhyrchu bob blwyddyn, ac mae 60% ohonynt o ddefnydd â sylfaen olew synthetig megis polyester. Mae gan polyester ddwywaith gymaint o allyriadau Co2 â ffabrigau naturiol ac mae'n dibynnu ar ffynonellau y mae pen draw iddynt.

Ar sail y ffeithiau hyn mae'n achosi pryder yn barod a dim ond megis crafu'r wyneb ydym ni...

Mae gan y cam cynhyrchu ôl troed cymdeithasol ac amgylcheddol anferth ynddo'i hun a gellir ei rannu'n dri phrif faes: Dŵr, Aer a Gwastraff.

Dŵr yw un o'r prif broblemau amgylcheddol yn y diwydiant ffasiwn, o ganlyniad i'r sŵm a ddefnyddir i dyfu cnydau a pherffeithio cynnyrch, i'r elifiant a ryddheir wrth lifo a pherffeithio. Mae'r elifiant hwn yn llygru afonydd a llynnoedd gyda metelau trwm a charsinogenau, gan ddifetha bywyd gwyllt ac effeithio ar gymunedau lleol. Gall gymryd hyd at 20,000 litr o ddŵr i gynhyrchu dim ond un crys t cotwm. Ac o ystyried bod cynnyrch cotwm yn tyfu ac yn cael eu cynhyrchu mewn ardaloedd sych heb lawer o fynediad at ddŵr glân, mae hwn yn bryder enfawr.

Mae llygredd aer yn broblem allweddol arall. Mae hyn yn cynnwys, nid yn unig allyriadau Co2 o ganlyniad i gludo nwyddau o amgylch y byd, ond llygredd lleol hefyd a dod i gysylltiad â chemegau megis sylffwr, clorin a chyfansoddion organig anweddol. Yn wir, mae Sefydliad Iechyd y Byd a Rhwydwaith Gweithredu ar Blaladdwyr yn amcangyfrif fod 15,000 o farwolaethau sy'n gysylltiedig â phlaladdwyr yn digwydd bob blwyddyn dim ond o dyfu cotwm, ffibr sy'n aml yn cael ei ystyried yn lân a naturiol, ond sydd, mewn gwirionedd, yn fwffe bwytwch faint â fynnwch, hyll i'r bygiau.

 

Mae gwastraff yn ffynhonnell lygredd anferth arall. Mae hyn yn cynnwys popeth o weddillion sgrapiau ffabrig yn y ffactrïoedd i ollyngiadau dŵr a chynhwysyddion cemegol. Ac yn anffodus mae'r mannau lle cynhyrchir ein dillad yn golygu mai prin yw'r ddeddfwriaeth i sicrhau y ceir gwared â'r eitemau hyn yn y modd cywir neu y cânt eu hailgylchu.

 

DEFNYDDIO

Yn aml iawn nid ydym yn meddwl am y cam yma ond hwn yw'r un sy'n achosi'r difrod a'r llygredd mwyaf ohonynt i gyd. Mae'n dibynnu fwyaf ar ble rydych yn byw a pha mor aml rydych yn golchi eich dillad etc. Er enghraifft, yn y Gorllewin rydym yn tueddu i olchi ein dillad ar ôl eu gwisgo unwaith, ac mae hyn yn defnyddio llawer o ddŵr, ynni a chemegau yn y glanedyddion. Ystyriwch hynny am funud, golchi pob dilledyn am weddill eich oes! Mae hynny'n lawer o wastraff! Pryder diweddar arall o ganlyniad i'r cynnydd mewn dillad polyester yw microffeibrau, sy'n cael eu rhyddhau i'n systemau dŵr gyda phob golch. Mae'r gronynnau plastig microffeibr yn lladd bywyd gwyllt ac maent wedi treiddio i'n bwyd hyd yn oed! Ych!

 

DIWEDD OES

Mae gan y cam hwn ystadegau erchyll. Mae'r diwydiant ffasiwn yn cael gwared ag 1 miliwn tunnell o wastraff tecstilau bob blwyddyn! Tra bod defnyddwyr yn cael gwared â 300,000 tunnell o ddillad bob blwyddyn, gyda 95% ohono yn cael ei daflu i'r bin ac yn gorffen mewn llosgwyr neu safleoedd tirlenwi yn hytrach na chael ei ailgylchu. Mae hyn yn achosi llygredd megis rhyddhau nwy methan i'r atmosffer. Mae hyn yn frawychus oherwydd gellid, ac fe ddylid, ailgylchu y rhan fwyaf o'r tecstilau hynny a deflir ac rydym i gyd yn ymwybodol o ba mor anodd yw cael gwared â phlastig, ac mae'r un peth yn wir am ddillad polyester.

 

Felly, mae'r cyfan yn swnio'n ddychrynllyd, tydi? Ond beth allwn ni ei wneud ynghylch hyn?

 

MAE GRYM MEWN GWYBODAETH

Yn gyntaf, mae angen inni fod yn ddinasyddion moesegol a gwybodus. Mae angen inni ddeall a chymryd cyfrifoldeb am sut y gwneir ein dillad, a theimlo cyswllt â'r rhai sy'n eu gwneud a'r tir y maent yn ei lygru. Fe all hyn ganiatáu inni leihau ein defnydd a'n galw. Byddai darllen yr adroddiad Fixing Fashion gan y Pwyllgor Awdit Amgylcheddol yn lle da i ddechrau. Mae gan y wefan fideo byr, trosolwg ac adroddiad llawn pe baech angen gwybod mwy.

Syniad arall yw i brynu dillad sy'n cael effaith gyfyngedig ac sy'n defnyddio lle bach iawn yn unig i dyfu, megis hemp a bambŵ (bambŵ dolen gaeedig yn unig gan ei fod yn defnyddio llai o gemegau) neu ddewis eitemau sy'n defnyddio cotwm organig a deunyddiau wedi eu hailgylchu.

Gallwch hefyd ysgrifennu at eich hoff gwmnïau a gofyn pa brosesau a ddefnyddir i wneud eu dillad, megis eu heffaith cymdeithasol ac amgylcheddol. Efallai na fyddwch yn cael ateb ond pe bai digon o bobl yn gofyn byddai'n rhaid iddynt ymateb yn y pendraw, a phwy a ŵyr, efallai y byddant yn newid eu harferion.

Byddwn hefyd yn argymell 100% i bawb ymgymryd â her fel y gwnes i yr holl flynyddoedd yn ôl, Gwglwch “second hand clothing challenge” ac fe welwch 124 miliwn o ganlyniadau! Chwiliwch am ysbrydoliaeth!

 

AILGYLCHU

Yn ôl WRAP mae gan y DU werth £30 biliwn o ddillad heb eu gwisgo wedi eu storio yn ein cypyrddau dillad. Ac mae 75% o'n dillad heb eu gwisgo ers dros flwyddyn. Felly beth am eu rhoi i rywun wneith! Ewch â nhw i siop elusen neu drefnu parti swisho! A chofiwch, mae modd ailgylchu dillad budr sydd wedi rhwygo i gadachau diwydiannol ac mae siopau elusen yn gwneud arian ohonynt, peidiwch â'u rhoi yn y bin da chi!

 

CREU

Ymunwch â chlwb gwnïo, gweithdy neu gwrs. Mae yna gymaint dros Gymru gyfan sy'n ein dysgu nid yn unig sut i greu eitemau newydd ein hunain ond hefyd i drwsio ac edrych ar ôl y rhai sydd gennym eisoes. Mae hyn yn dod â fi yn ôl at y cyswllt emosiynol... Os ydym yn cymryd amser i greu neu edrych ar ôl rhywbeth byddwn yn llai tebygol o gael gwared arno. A choeliwch fi, mae gwneud a gwisgo rhywbeth wnaethoch chi greu eich hun sy'n hollol unigryw, yn teimlo'n llawer gwell nag unrhyw drip siopa!

 

 

AM RAGOR O WYBODAETH:

Ewch i SustFashWales i ddysgu mwy am ffasiwn cynaliadwy yma yng Nghymru. Dysgwch am y nifer o ddylunwyr, cwmnïau, sefydliadau addysgol a crefftgyrwchwyr sy'n gweithio i ddarparu datrysiadau cynaliadwy i ffasiwn. Mae SustFashWales yn gweithio ar gyfeirlyfr cronfa ddata newydd o bopeth ffasiwn a chynaliadwy yng Nghymru i'w gwneud hi'n haws i fod yn rhan o'r ymgyrch fyd-eang.

 

Yn aml iawn, nid ydym yn ymwybodol o'r grym sydd gennym fel defnyddwyr i wneud gwahaniaeth mewn economi fyd-eang mor anferth o ddryslyd. Drwy wneud pethau bychain fel dysgu o ble mae eich dillad a'ch ategolion yn dod, pwy sy'n eu gwneud ac yna defnyddio hyn i wneud dewisiadau cyfrifol, mae gennym y gallu i wneud newid sylweddol!

 

Ymunwch â Ni

 

Ysgrifennwyd gan Helen O’Sullivan - 5 Mehefin 2019

 

Dolenni:

http://www.sustfashwales.org

 

EAC Fixing Fashion:

https://publications.parliament.uk/pa/cm201719/cmselect/cmenvaud/1952/report-summary.html

Adroddiad Llawn EAC Fixing Fashion:

https://publications.parliament.uk/pa/cm201719/cmselect/cmenvaud/1952/1952.pdf

WRAP CYMRU:

http://www.wrapcymru.org.uk/

 

Cydnabyddiaeth llun: Michelangelo Pistoletto, Venus of the Rags, 1967 drwy AnNother Magazine

Share this page