Ffasiwn cynaliadwy

Published: 28 Mar 2022

Mae ôl-troed carbon y diwydiant ffasiwn yn enfawr. Amcangyfrifir ei fod yn gyfrifol am tua 10% o allyriadau nwyon tŷ gwydr y byd.

Clothing factory, Indonesia

 

Mae’n gollwng mwy o garbon na siwrneiau rhyngwladol mewn awyren a morgludiant efo’i gilydd, a dyma’r ail ddiwydiant butraf yn y byd, ar ôl y diwydiant olew.

Os bydd y diwydiant ffasiwn yn parhau fel ag y mae, yna gallai ei siâr o gyllideb carbon y byd neidio i 26% erbyn 2050.

Darllenwch fwy

 

 

Am beth ydym ni’n galw?

Mae Cyfeillion y Ddaear Cymru yn aelod o Dillad a Thecstilau Cynaliadwy Cymru (SCTC), sydd hefyd yn cynnwys Repair Cafe Wales, Cadwch Gymru’n Daclus, Prifysgol De Cymru, Onesta,Gadael Ni Chwarae (Play it Again Sport)aSustFashWales.

Rydym am i Lywodraeth Cymru weithio gyda SCTC, a rhanddeiliaid allweddol eraill yng Nghymru, i ddatblygu cynllun gweithredu penodol i wneud ffasiwn yn gylchol yng Nghymru, fel y gallwn ddechrau ar ein taith tuag at fod yn wlad ble mae ffasiwn a thecstilau yn gynaliadwy.

Darllenwch fwy

 

Pethau y gallwn ni eu gwneud

Amdani!

 

 

Share this page