Diwastraff
Published: 25 Apr 2022
Mae Eurostat yn amcangyfrif mai gwastraff oedd y pedwerydd uchaf o ran allyriadau’r sector ffynhonnell yn yr UE yn 2017 (yn cyfrif am 3% o gyfanswm allyriadau nwyon tŷ gwydr).
Yng Nghymru, roedd gwastraff yn cyfrif am 4% o gyfanswm allyriadau Cymru yn 2018, ond nid yw’r ystadegau hyn yn rhoi’r darlun llawn i ni. Mae tua 99% o’r plastigau rydym yn ei defnyddio’n dod o danwyddau ffosil. Felly, mae ein dibyniaeth barhaus ar blastigau’n ein clymu at ddibyniaeth barhaus ar y tanwyddau hyn sy’n achosi’r anhrefn hinsawdd.
Er gwaethaf yr holl sylw diweddar i'r mater hwn, mae astudiaethau’n awgrymu nad ydym yn lleihau ein defnydd o blastigau’n ddigon cyflym. Mae symud at economi gylchol yn rhan allweddol o fynd i’r afael â'r anrhefn hinsawdd. Darllen mwy
Beth ydym yn galw amdano?
Mae angen i’r holl gamau rydym yn eu cymryd mewn perthynas â gwastraff bwyd, plastigau, papur, tecstilau ayyb, fod â’r nod o gyrraedd Cymru gwbl ddiwastraff yn y pen draw.
Bydd pontio at economi gylchol, lle rydym yn parhau i ddefnyddio adnoddau am amser hir ac yn eu hailddefnyddio ar ddiwedd eu cylch bywyd yn hytrach na’u taflu i ffwrdd, yn ategu hyn. Darllen mwy
Pethau y gallwn ni eu gwneud