Llythyr agored yn gofyn am Gynllun Gweithredu Microblastigau

Dros 50 o sefydliadau, gan gynnwys Cyfeillion y Ddaear Cymru, wedi arwyddo llythyr i Lywodraeth Cymru yn gofyn iddynt weithredu ar y broblem gynyddol o ficroblastigau.

Graphic of a plastic bottle raining down tiny pieces of plastic on to two fish

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Mae gronynnau microblastig wedi’u canfod o gopaon y mynyddoedd uchaf i ddyfnderoedd eithaf y cefnforoedd. Maen nhw yn yr aer ac yn ein bwyd. Maen nhw’n deillio o ficroblastigau sy’n llygru ein hamgylchedd – yn cynnwys poteli plastig, weips gwlyb, teiars cerbydau, a hyd yn oed paent ar adeiladau a marciau ffyrdd.

Amcangyfrifir eu bod yn gyfrifol am oddeutu 35% o’r holl lygredd plastig yn ein moroedd a’n cefnforoedd.

Canfuwyd bod microblastigau yn wenwynig i fywyd morol ac mae tystiolaeth gynyddol yn awgrymu eu bod yn niweidiol i fywyd ar y tir, gan ein cynnwys ni ein hunain. Mae darnau o ficroblastigau wedi cael eu canfod yng ngwaed 8 o bob 10 o bobl hyd yn oed, a hyd yn hyn ni wyddys beth fydd yr effaith ar ein hiechyd.

Mae'r llofnodwyr yn awyddus i weithio gyda Llywodraeth Cymru er mwyn dwyn ynghyd y sefydliadau a’r arbenigwyr perthnasol i lunio Cynllun Gweithredu Microblastigau ar gyfer Cymru. Rhagwelwn y bydd cynllun o’r fath yn cynnwys pethau fel ymdrin â microffeibrau plastig a llygredd microblastig yn y tarddiad, a chyflwyno addysg yn ymwneud â’r materion hyn yn ein hysgolion.

Share this page