Dylid gwrthod cynllun catastroffig ar gyfer llosgydd newydd, medd ymgyrchwyr
Published: 1 Mar 2021
Mewn llythyr agored a gyhoeddwyd heddiw (16 Chwefror 2021), mae Cyfeillion y Ddaear Cymru yn gofyn i Lywodraeth Cymru ‘alw i mewn’ y cynnig ar gyfer llosgydd newydd enfawr yng Nghasnewydd a fyddai’n drychinebus i’r hinsawdd.
Mae cynlluniau wedi’u cyflwyno i Gyngor Casnewydd i droi hen orsaf bŵer B Aber-wysg yng Nghasnewydd yn gyfleuster ‘creu ynni o wastraff’ (ffordd arall o ddweud ‘llosgydd’) a fyddai’n llosgi math newydd o danwydd, sef ‘Subcoal’.
Byddai’r tanwydd hwn, yn ôl pob golwg, yn cael ei wneud o gardbord, papur a phlastig ‘anailgylchadwy’. Byddai 900,000 tunnell o’r peledi tanwydd hyn yn cael eu llosgi bob blwyddyn, gan ryddhau cymaint â 1,550,000 tunnell o garbon deuocsid bob blwyddyn am yr 20 mlynedd nesaf a gwneud tolc go fawr yng nghynlluniau Llywodraeth Cymru i leihau allyriadau sy’n drychinebus i’r hinsawdd yng Nghymru am genhedlaeth.
Ddechrau mis Chwefror, rhoddodd Llywodraeth Cymru ‘gyfarwyddyd dros dro’ ar waith er mwyn rhwystro Cyngor Casnewydd rhag gwneud penderfyniad ynglŷn â’r cynllun.
Medd Bleddyn Lake, llefarydd Cyfeillion y Ddaear Cymru:
“Mae’n anodd deall sut mae’r cynnig hwn ar gyfer llosgydd a fyddai’n ddinistriol i’r hinsawdd wedi mynd cyn belled yn barod.
“Mae mwy ohonom nag erioed o’r blaen yn ymwybodol o’r ffordd rydym yn dinistrio ein planed. Mae’n anodd credu y byddem hyd yn oed yn ystyried cymryd plastig, papur a chardbord o bob cwr o’r DU, gwneud peledi ohonyn nhw, eu cludo yr holl ffordd i Gasnewydd a’u llosgi, gan ryddhau mwy na miliwn a hanner o dunelli o CO2 bob blwyddyn am 20 mlynedd, ac yna ceisio honni bod hyn yn beth da!
“Nid yw’r honiad fod y plastig yn ‘anailgylchadwy’ yn dal dŵr chwaith, yn enwedig pan ystyriwch chi’r cynnydd sydd wedi’i wneud yn ddiweddar o ran lleihau faint o blastig a ddefnyddiwn ynghyd ag ymrwymiad Llywodraeth Cymru i symud tuag at economi gylchol.
“Sut ar wyneb y ddaear allwn ni anelu at ddefnyddio llai o blastig os byddwn ni’n arwyddo contractau hirdymor i losgi cannoedd ar filoedd o dunelli ohono bob blwyddyn. Os caiff y cynnig niweidiol hwn ei ganiatáu, byddai’n rhaid inni gario ’mlaen i gyflenwi’r safle hwn gyda symiau enfawr o blastig yn ystod yr union gyfnod pan fyddwn ni’n lleihau ein defnydd ohono. Ble mae hyn yn ein gadael? Naill ai gwanhau ymrwymiadau i ddefnyddio llai o blastig neu fewnforio gwastraff o wledydd eraill ar ryw adeg, yn ôl pob tebyg.
“Rydym yn falch fod Llywodraeth Cymru wedi rhoi sylw i’n cais i ystyried y cynnig hwn, ac yn awr dymunwn i Lywodraeth Cymru ymrwymo i ‘alw’r cais i mewn’. Yn amlwg, mae’n fater cenedlaethol o gofio’r holl allyriadau hinsawdd sydd dan sylw.”