Newid trwydded Gorsaf Bŵer Aber-wysg
Mae Cyfeillion y Ddaear Cymru wedi ymateb i ymgynghoriad Cyfoeth Naturiol Cymru ar newid trwydded gorsaf bŵer Aber-wysg.
Rydym yn gwrthwynebu’r cynigion i newid y drwydded ar gyfer Gorsaf Bŵer Aber-wysg i losgi pelenni tanwydd sy’n deillio o wastraff.
Byddai’r gwaith llosgi arfaethedig hwn yng Nghasnewydd, De Cymru, yn arwain at allyriadau hinsawdd dinistriol a fydd yn gwrth-ddweud datganiad argyfwng hinsawdd Llywodraeth Cymru ei hun ac yn ei gwneud yn anoddach fyth i gydymffurfio â thargedau hinsawdd Cymru.
Byddai’r gwaith hefyd yn arwain at lygredd aer lleol, cynhyrchu gwastraff peryglus, a dinistrio’n barhaol ddeunyddiau ac adnoddau gwerthfawr megis papur a cherdyn, gan ei gwneud yn anodd cyflawni ein nod datganedig yng Nghymru o economi gylchol ddiwastraff.
Mae hefyd yn gwrth-ddweud Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.