Rhaid i Weinidog nesaf Cymru flaenoriaethu cyfiawnder hinsawdd

Published: 7 Feb 2024

Rhaid i Brif Weinidog nesaf Cymru flaenoriaethu cyfiawnder hinsawdd, meddai Cyfeillion y Ddaear Cymru, mewn ffordd sy’n creu swyddi a chyfleoedd a fydd yn gwneud ein cenedl yn fwy llewyrchus a chynaliadwy ar gyfer cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol.
Photo of Vaughan Gething and Jeremy Miles
Vaughan Gething MS and Jeremy Miles MS

Mae Cyfeillion y Ddaear Cymru wedi ysgrifennu at Vaughan Gething a Jeremy Miles, yn gofyn iddynt ymrwymo, os cânt eu hethol yn arweinydd nesaf Llafur Cymru, i roi pobl a’r blaned yn gyntaf er mwyn sicrhau trosglwyddiad cyfiawn i Gymru ddi-garbon.

 

Picture of Haf Elgar
Haf Elgar, Director of Friends of the Earth Cymru

Yn y llythyr dywedodd Cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru Haf Elgar:

“Mae newid hinsawdd hefyd yn gwaethygu anghyfiawnderau ac anghyfartaleddau yn ein cymdeithas, gyda’r cymunedau sy’n gwneud y lleiaf i achosi’r argyfwng hinsawdd yn dioddef mwyaf o’i effeithiau.

Mae Cyfeillion y Ddaear Cymru yn annog y Prif Weinidog nesaf i edrych ar eu holl benderfyniadau drwy'r lens hon i sicrhau bod cyfiawnder hinsawdd wrth galon eu rhaglen llywodraethu.

“Mae hon yn adeg dyngedfennol yn ein hanes”, meddai Haf Elgar. “Rydyn ni’n gweld dwymo byd eang digynsail, a’r difrod a ddaw yn ei sgil – tonnau gwres, llifogydd, newyn a thanau gwyllt yn dod yn fwyfwy aml ac yn gyflymach fyth nac y rhagwelwyd.

“Fe fydd y penderfyniadau a wneir yng Nghymru yn yr ychydig flynyddoedd nesaf yn allweddol i ba mor gyflym a theg rydyn ni’n trawsnewid i sero net, a beth fydd ein heffaith ar y byd a chymunedau yng Nghymru.”

Y rhai ar incwm isel, pobl o liw, a chymunedau y mae eu bywoliaeth yn dibynnu ar ddiwydiannau carbon-ddwys, sy'n cael eu taro waethaf ac felly bydd angen y cymorth mwyaf arnynt.

Darllenwch yr ymatebion gan yr ymgeiswyr i'n llythyr

 

Share this page