Archebwch eich tocynnau Egnio 2022 heddiw

Published: 1 Apr 2022

Egnïo 2022 yw fersiwn Cymru o Groundswell, rhaglen flaenllaw Cyfeillion y Ddaear o ddigwyddiadau rhanbarthol a chenedlaethol ar gyfer cefnogwyr ac ymgyrchwyr llawr gwlad.

Eleni mae dau ddigwyddiad yn cael eu cynnal yng Nghymru. Mae digwyddiad ym Mhontypridd ar 21 Mai ac un arall ym Mangor ar 25 Mehefin, felly dewiswch eich un agosaf.

P’un a ydych yn aelod o grŵp Gweithredu Hinsawdd neu grŵp lleol, yn un o’n Ymgyrchwyr neu’n cefnogwyr, wedi’ch lleoli yng Nghymru neu â diddordeb yn y cyd-destun Cymreig, edrychwn ymlaen at eich gweld ym Mangor neu Bontypridd!

Cliciwch ar un o'r lluniau isod am fwy o wybodaeth ac i archebu eich tocyn.

Egnio image

 

Egnio

Yn Affrica, Asia, Awstralasia a’r Dwyrain Canol, mae pobl eisoes yn dioddef yr effeithiau gwaethaf sy’n gysylltiedig â newid hinsawdd. Ar hyd a lled Cymru rydym ninnau hefyd yn teimlo effeithiau newid hinsawdd yn sgil llifogydd ym Mhontypridd a chynnydd yn lefel y môr ym Mangor ac mewn cymunedau arfordirol eraill.

Ond mae rhai ohonom yn teimlo effeithiau newid hinsawdd yn fwy nag eraill.

Mae cymunedau amrywiol ledled y byd yn cymryd camau. O gynlluniau lleol sy’n anelu at leihau carbon, i brotestio torfol – mae mwy ohonom nag erioed o’r blaen yn ymladd dros ein dyfodol.

Er mwyn newid popeth, byddwn angen i bawb wneud ei ran.

Ymunwch â ni ym Mhontypridd neu Fangor i adeiladu mudiad cyfiawnder hinsawdd a fydd yn deg ac yn gynhwysol ac yn gadael neb ar ôl.

 

Archebwch eich tocyn i Bontypridd

Archebwch eich tocyn i Fangor

Digwyddiadau Groundswell

 

 

 

Share this page