Ymgyrchwyr Ifanc o Gymru yn gwrthod gwobr

Published: 21 Jan 2022

Mae Cyfeillion y Ddaear Ifanc Pontypridd wedi gwrthod gwobr gan y cyngor am iddynt beidio gwneud digon i ddelio â newid yn yr hinsawdd.
Chidren being interviewed by the media
Ch: Dd Alice, 13 oed, Rowan, 10 oed a Dan 12 oed

Mis diwethaf fe ddenodd grŵp o blant ysgol ysbrydoledig ac ymrwymedig sylw cenedlaethol am wrthod Gwobr Dinesydd Da gan gyngor Rhondda Cynon Taf (RhCT).

Mae'r ymgyrchwyr ifanc wedi bod yn hynod o weithredol yn eu hardal leol dros y blynyddoedd diwethaf yn codi ymwybyddiaeth am newid yn yr hinsawdd. Maent wedi trefnu gwrthdystiadau hinsawdd ac wedi rhoi cyfweliadau i wleidyddion mewn cyfarfodydd etholiadol ymysg pethau eraill.

 

Alice

Dywedodd Alice wrth The Guardian:

"Roeddem yn teimlo nad oedd RhCT yn gwneud digon ynghylch newid yn yr hinsawdd. Byddem wedi bod yn rhagrithiol petaem wedi derbyn y wobr. Mae'r cyngor yn dweud eu bod yn cynllunio pethau i helpu ond os oes tân yn llosgi, dydych chi ddim yn dweud: 'Mi wna'i hyn 'fory.' Nid ydych yn eistedd yn y fflamau, rydych yn delio â nhw. Maen nhw'n eistedd yn y fflamau.

"Roedd y llifogydd yn afiach. Dwi'n edrych allan o'r ffenestr ac yn meddwl gallwn fod wrth y traeth ymhen 10 mlynedd. Mae lefelau'r môr yn codi, mae llifogydd yn digwydd yn amlach ac mae pobl yn dewis anwybyddu hyn. Pan dwi'n mynd i'r awyr agored ar ôl ysgol dyw'r aer ddim yn teimlo'n iach. Ga'i awyr iach os gwelwch yn dda? Nid gwobr."

 

Dan

Dywedodd Dan wrth The Guardian: 

"Petaem wedi derbyn y wobr efallai byddem wedi bod yn y papur lleol. Bydd mwy o bobl yn gwybod beth ydym wedi ei wneud nawr. Efallai y gwnawn nhw ymuno â ni ar orymdaith neu wneud eu hymchwil eu hunain i'r hinsawdd. Pan glywais am y wobr gyntaf roeddwn yn gyffrous ond wedyn mi feddyliais eu bod yn ceisio gwyrddgalchu eu hunain."

 

Rowan

Dywedodd Rowan wrth y BBC:

"Dw i ddim yn meddwl bod pobl yn deall pa mor ddrwg ydi pethau. Dw i'n cael ysgytwad pan dwi'n meddwl am y dyfodol.

"Efallai bydd gen i ddyfodol hefo mynyddoedd yn briwsioni ac aer sy'n mygu rhywun, a dwi ddim eisiau i hynny ddigwydd."

 

Darllenwch erthygl The Guardian

Darllenwch erthygl y BBC

Darllenwch erthygl yn Gymraeg o BBC Cymru Fyw

Gwyliwch fideo'r ymgyrchwyr ifanc i'w cynghorwyr

 

Share this page