Chwe chymuned o Gymru i elwa o Arddwr Cod Post
Published: 30 Jan 2025

Beth yw Garddwr Cod Post?
Ddydd Gwener 31 Ionawr 2025, fe lansiodd Pentref Tyleri, menter gymdeithasol yng Nghwmtyleri ym Mlaenau Gwent, brosiect garddio cymunedol newydd. Yn y digwyddiad, cyflwynwyd y ‘Garddwr Cod Post’ newydd, Jamie Thomas, i’r bobl leol.
Garddwr Cod Post yw conglfaen rhaglen arddio sy’n cael ei chynnal gan Gyfeillion y Ddaear a The Co-operative Bank yng Nghwmtyleri a phum cymuned arall sydd wedi’u hamddifadu o fyd natur.
Gwaith y garddwr proffesiynol hwn a gyflogir yw ysbrydoli pobl i ddod ynghyd, i blannu a dal ati i dyfu. Maent yn cael pobl allan i’r awyr agored, i gymdeithasu ac i gydweithio. Maent yn helpu i dyfu planhigion a blodau, bwyd a bywyd gwyllt a rhyd strydoedd, mewn gerddi tai a mannau cyhoeddus lle gall pobl eu mwynhau.
Jamie Thomas yw’r ail Arddwr Cod Post yng Nghymru. Y cyntaf yw Ollie Lister sydd wedi bod yn gweithio gyda chymuned St Thomas, mewn cydweithrediad â Chanolfan yr Amgylchedd yn Abertawe ers mis Rhagfyr y llynedd. Yn y misoedd nesaf, bydd y rhaglen Garddwr Cod Post yn cael ei chyflwyno i gymunedau Ravenhill yn Abertawe, Trelái a Chaerau yng Nghaerdydd, Rhyl yn Sir Ddinbych a Ferndale yng Nghwm Rhondda, felly cadwch lygad allan!
Cwmtyleri
Yng Nghwmtyleri bydd Jamie yn gweithio gyda’r gymuned i annog byd natur yn ôl i’r ardal, a chynorthwyo pobl a byd natur i ffynnu. Fel sawl tref yng nghymoedd de Cymru, mae llawer yn byw yng Nghwmtyleri, gyda rhesi o dai teras yn nadreddu ar hyd llawr ac ochrau’r cwm. Er bod mynyddoedd serth yn amgylchynu’r ardal gyfan, fel y dywedodd Ralph, preswylydd lleol, mae gwyrddni’n brin a does fawr ddim lleoedd gwyrdd.
Ychydig fisoedd yn ôl, effeithiodd storm Bert yn ddrwg ar Gwmtyleri, wedi i genllif o law achosi tirlithriad o domen lo gyfagos, gan ddifrodi eiddo a gerddi. Yn ystod y storm, sylwedd nifer o bobol yn y dref sut yr oedd gwlypdir cymunedol a grëwyd yn ddiweddar yng Nghwmtyleri yn wydn wrth wynebu’r llifogydd.
Arweiniodd hyn at lawer o sgyrsiau yn y dref ynghylch newid hinsawdd, a sut y gall harneisio byd natur gynnig datrysiadau i helpu i ddiogelu rhag effeithiau achosion o dywydd eithafol.
Cynllun Jamie yw i ‘wyrddo’ tri lleoliad ac mae’n ymgynghori â’r gymuned nawr am ble yn union y bydd y rhain a sut le fyddan nhw:
“Rwy’n edrych ymlaen rhoi bywyd newydd yn y mannau gwyrdd hyn sydd wedi mynd yn angof. Bydd yn wych eu gweld yn llawn bywyd gwyllt a cyn dod yn hafan i’r gymuned gyfan gael ei mwynhau.
“Nid dim ond gwneud i’r lle edrych yn brydferth a wnawn, mae’n ymwneud â chreu mannau sy’n dod â phobl ynghyd a diwallu anghenion y gymuned.”
Mae’n gobeithio y bydd y prosiect hwn yn annog gwyrddo ardaloedd eraill, gyda help y gymuned, megis blychau plannu, potiau plannu, llain lysiau, a phlannu coed a blodau gwyllt.
Beth yw’r manteision?
Fel hyn bydd y rhaglen Garddwr Cod Post yn ffordd brofedig o helpu i adfer byd natur a bioamrywiaeth yn y gymuned yng Nghwmtyleri, gan sicrhau bod pobl leol yn gallu mwynhau’r buddion iechyd a llesiant y gall byd natur ei ddarparu.
Dros y 30 mlynedd ddiwethaf, mae bywyd gwyllt yng Nghymru wedi lleihau un rhan o bump ac mae 1 o bob 6 rhywogaeth mewn perygl o ddifodiant. Mae Cymru nawr yn un o’r gwledydd mwyaf prin ein natur yn y byd. Nid dim ond i ecosystemau mae’r dirywiad hwn mewn byd natur yn ddinistriol, mae’n cael effaith wirioneddol ar iechyd corfforol a meddyliol pobl hefyd.
Dyna pam mae'r Rhaglen Garddwr Cod Post mor bwysig. Mae angen gweithredu nawr a chydweithio i greu strydoedd iachach, mwy gwydn sy’n ffynnu yn yr ardaloedd sy’n cael eu bygwth fwyaf gan newid hinsawdd.
Gweler yma am restr gyflawn o’r prosiectau a sut i gymryd rhan.