Tyfwch eich llysiau eich hun
Published: 19 Jan 2022
Cymerwch olwg ar yr astudiaethau diddorol hyn.
Mae tyfu eich ffrwythau a’ch llysiau eich hun gartref neu ar randir yn ffordd wych o fwynhau mwy o gynnyrch blasus tymhorol wrth hefyd helpu plant i ddysgu o le daw bwyd. Mae, hefyd, yn ymarfer corff sydd yn werthfawr. Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am randiroedd, gan gynnwys sut i wneud cais am un.
Os oes gennych rywfaint o le, tyfwch ardd perlysiau - mae’n hwyl, mae’n helpu gwenyn ac yn arbed arian i chi.
Mae Grow to Give hefyd yn brosiect bach braf y gallech fod â diddordeb ynddo Efallai y gallech awgrymu hyn i eraill yn eich ardal hefyd?
Gall hel eich llysiau a ffrwythau eich hun fod yn hwyl ac yn ffordd dda i arbed arian a hel cynnyrch ffres os nad ydych yn tyfu peth eich hun. Mae yna ddigon o leoedd yng Nghymru lle gallech wneud hyn.
Wyddech chi y gall tyfu eich llysiau dorri allyriadau hinsawdd ddau kilogram am bob cilogram o lysiau cartref, o'i gymharu â'r rhai a brynir mewn siop?
Wrth gwrs, bydd y ffordd y byddwch yn garddio ac yn defnyddio egwyddorion organig ac yn cynhyrchu eich compost eich hun yn cael effaith ar hyn. Mae llawer o fanteision eraill, hefyd, i geisio cynhyrchu mwy o'n ffrwythau, llysiau a pherlysiau ein hunain. Mae’n hwyl, mae’n ein cael i godi allan ac mae’n helpu i ddysgu ein plant o le daw bwyd. At hyn, mae pethau fel pys a thomatos cartref yn blasu’n fendigedig!
Fel y gellwch ei ddisgwyl, mae llwyth o wybodaeth ar gael i’ch helpu i dyfu eich ffrwythau a’ch llysiau eich hun. Wyddech chi fod ‘mwy na thraean o holl fasnach hadau llysiau byd eang yn tarddu o’r Iseldiroedd.’?
Mae gan Sarah Raven a Gardeners' World lwyth o wybodaeth dda, er enghraifft. Mae gan Garden Organic syniadau a chyngor gwych am fynd yn organig. Os oes arnoch awydd rhoi cynnig ar baramaethu, yna, mae Paramaethu Cymru yn lle gwych i ddechrau.
Efallai yr hoffech feddwl am ddefnyddio tail gwyrdd sy’n dechneg a all helpu i dagu chwyn, gwella strwythur y pridd a dychwelyd maeth gwerthfawr i’r pridd. Efallai yr hoffech hyd yn oed roi cynnig ar fersiwn lai o’r broses ‘te compost’ hon!
Mae gan y garddwr ifanc o Gymru, Huw Richards, flog llwyddiannus y mae’n bendant werth cael golwg arno.
Angen rhagor o help arnoch?
Gall SmartPlant eich helpu i adnabod unrhyw blanhigion y gallech fod yn cael trafferth gyda nhw a gallwch wirio beth yw nodweddion eich tir gyda’r app mySoil . Gall GrowVeg eich helpu i gynllunio eich gardd ac mae llwyth o wybodaeth ynddo am ba lysiau i’w tyfu a sut i ymdopi ag amryfal blâu. Mae yna lawer mwy o apiau ar gael hefyd.
Rhandiroedd
Os nad oes gennych le gartref i dyfu eich llysiau eich hun, yna mae rhandiroedd yn ddewis cynyddol poblogaidd. At hyn, mae Cymdeithas Rhandiroedd Cymru yn ffynhonnell ddefnyddiol o wybodaeth. Os hoffech wneud cais am randir, yna cysylltwch â’ch cyngor lleol neu ddefnyddio’r cyfleuster ar-lein hwn. Mae yna nifer o brosiectau arloesol ledled Cymru. Mae rhandiroedd Cae Perllan yng Nghasnewydd, er enghraifft, wedi hyd yn oed ddechrau cynllun lle maent yn rhoi bwyd fresh i fanc bwyd lleol.
At hyn, dangoswyd bod rhandiroedd wedi bod yn gynefin gwerthfawr iawn i beillwyr.
Bwyd - pethau y gallwn eu gwneud
Mannau Gwyrdd - Pethau y gallwn ni eu gwneud