Pŵer dynol yn arbed ardal werdd yng Nghaerffili

Published: 3 Feb 2021

Llun o Bianca Gittens

Gan Bianca Gittens
Gwirfoddolwr gyda Chyfeillion y Ddaear Cymru

Dyma stori ynghylch sut wnaeth pobl ryfeddol yng Nghaerffili weithio gyda'i gilydd i atal ardal wledig hyfryd rhag cael ei throi'n ystad o dai, fel gall y gymuned gyfan, gan gynnwys teuluoedd sydd â gerddi bach neu ddim gardd o gwbl, barhau i fwynhau'r ardal werdd. Ond nid yw'r frwydr drosodd...

Rydym angen ein hardaloedd gwyrdd yn fwy nag erioed.

Mewn cyfnod pan mae mwy o rywogaethau yn diflannu nag erioed o'r blaen, mae parciau a choetiroedd yn rhoi cynefin mawr ei angen i fywyd gwyllt lleol, gan feithrin bioamrywiaeth.

Mae ardaloedd gwyrdd yn hanfodol yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd. Mae coed a phlanhigion yn amsugno carbon o'r aer a llygryddion yn yr aer, gan gynorthwyo i leihau allyriadau a gwella ansawdd aer. Mae pridd a gwreiddiau coed a phlanhigion yn storio dŵr ac yn lleihau'r risg o lifogydd.

Mae gallu mwynhau byd natur yn agos at ein cartref yn bwysig er ein lles meddwl a chorfforol, yn arbennig yn ystod pandemig Covid-19.

 

Gwern y Domen

I'r de o bentref Bedwas, oddi ar ffordd Rhydri yng Nghaerffili, mae ardal werdd sy'n gyfoeth o fioamrywiaeth, a'i henw yw Gwern y Domen.

Wedi'i lleoli ger Parc Lansbury, cymuned gyda rhai o'r ffigyrau amddifadedd uchaf yng Nghymru, mae gan y safle gyfuniad unigryw o goetir ar y mannau llethrog uwch, a thir fferm bugeiliol, dolydd blodau gwylltion a hen reilffordd yn y mannau is, gydag adeiladau cefn gwlad a ffermydd ar wasgar ynddo.

Rhwng y dolydd blodau gwylltion, coetiroedd, cynefinoedd glaswelltir corsiog a choed perthi, ceir coridorau porthiant a bywyd gwyllt ar gyfer sawl rhywogaeth warchodedig yn y DU.

Mae Gwern y Domen yn arbennig o fioamrywiol, yn gyfoeth o fywyd gwyllt, yn gartref i fwncathod, gleision y dorlan, tylluanod gwynion, infertebratau, pathewod, madfallod dŵr cribog, ystlumod megis ystlumod clustiog brown, llwydni llysnafeddog ac o leiaf 24 math o ffwng cap cwyr prin.

Mae'r ehedydd mewn perygl hefyd wedi'i weld yn hedfan dros Wern y Domen.

 

 

Yn ychwanegu at ei natur unigryw mae nant Lamprey, ffosil byw sydd heb newid ers sawl miliwn o flynyddoedd, ac sydd ar hyn o bryd yn preswylio yn nant dŵr ffres Nant Arian ar iseldir Gwern y Domen, gyfochr â'r hen reilffordd.

 

Pam mae Gwern y Domen mewn perygl?

Yn 2016, cyflwynodd Perismmon Homes a PMG Ltd. geisiadau cynllunio i ganiatáu 12,400 o dai gael eu hadeiladu ar y safleoedd tir glas yng Nghaerffili, gan gynnwys Gwern y Domen.

Er y diddymwyd y cynllun datblygu lleol hwn ym mis Gorffennaf 2016 gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, cyflwynwyd cynlluniau i adeiladu hyd at 618 o dai newydd ym mis Mai 2017 ac fe'u hailgyflwynwyd ym mis Mehefin 2019 gyda newidiadau bach fel "hawl safonol" i fodloni'r galw uchel am dai.

Byddai'r datblygiad arfaethedig wedi'i adeiladu ar gaeau is Gwern y Domen, yn agos at orsaf drenau Caerffili, yn arwain at y fferm ac o'i gwmpas a Long Barnes ar Ffordd Gwern y Domen ger Comin Rhydri.

Byddai'r safle wedi cynnwys pafiliwn chwaraeon, man agored a maes chwarae, gyda rhwydweithiau cylchredeg i gerddwyr, beicwyr a thrafnidiaeth gyhoeddus.

 

Pŵer gweithred gymunedol

Roedd llawer o bobl yng Nghaerffili yn erbyn y cynlluniau oherwydd y byddai wedi arwain at fwy o draffig a llygredd aer, ac yn cynyddu'r risg o lifogydd yn sawl ardal, gan gynnwys Bedwas, Badgers Wood a dolydd Trefore.

Byddai hefyd wedi arwain at chwalu cynefinoedd prin a rhywogaethau mewn perygl, ac effeithio ar lesiant pobl leol, gan eu hamddifadu o'u hardal werdd leol flaenorol, sy'n cael ei defnyddio gan blant, pobl yn mynd â'u cŵn am dro, cerddwyr a gan bobl mewn ystad gyfagos sydd â gerddi bach neu ddim gerddi eu hunain efallai. Cafwyd cwynion gan bobl hefyd oherwydd y byddai rhai o'r tai yn dai eithriadol, y tu hwnt i fodd nifer o bobl yng Nghaerffili.

Ymddangoswyd bod y cynlluniau yn mynd yn erbyn amcan sawl darn o ddeddfwriaeth, gan gynnwys Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

 

Gwrthwynebodd amrywiaeth eang o bobl y ceisiadau caniatâd cynllunio a gyflwynwyd gan ddatblygwyr, gan gynnwys cynghorwyr a gwleidyddion lleol..

Cododd Grŵp Cadwraeth Gwern y Domen broffil yr ymgyrch drwy ennill cefnogaeth gan y cyflwynydd teledu, Iolo Williams, ac aeth aelodau o'r grŵp hwn, ynghyd â phobl leol eraill, yn ddiflino o ddrws i ddrws yn hysbysu preswylwyr, yn rhoi templedi o wrthwynebiadau, a gweithio gydag eraill i gynllunio protestiadau a ddenodd sylw yn y wasg gan BBC Wales Online, Caerphilly Observer a'r Western Mail.

Arwyddodd oddeutu 4500 o bobl ddeisebau yn erbyn y datblygiad arfaethedig cyntaf ar safleoedd tir glas. Yn ogystal, protestiodd 400 o bobl yn erbyn cynlluniau datblygu i adeiladu bron i 700 o gartrefi a ffordd osgoi ar Fynydd Caerffili yn ogystal â chynlluniau datblygu ar wahân ar gyfer Gwern y Domen, gan arwain at ddiddymu'r cynllun datblygu lleol am y tro cyntaf.

 

 2019 - llwyddiant!

Pan ailgyflwynwyd y ceisiadau cynllunio yn 2019, trefnwyd protest cefn ceffyl gan ysgol farchogaeth leol. Cafodd y brotest sylw teledu cenedlaethol, gan dynnu sylw'r Daily Mailhyd yn oed.

Crëwyd gweithred ar-lein gan ddefnyddio Action Network gan Gyfeillion y Ddaear Caerffili mewn cydweithrediad ag ymgyrchwyr lleol eraill er mwyn ei gwneud yn haws i bobl gyflwyno eu gwrthwynebiad i'r datblygiad arfaethedig. Yn y diwedd, cyflwynwyd 2600 o wrthwynebiadau - go arbennig!

Fis Awst 2019, gwrthododd Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili y ceisiadau cynllunio. O'r diwedd, bu i ymdrechion bobl leol, a oedd wedi gweithio'n ddiflino ar yr ymgyrch ers blynyddoedd a blynyddoedd, dalu ar ei ganfed. 

 

 

Y dyfodol

Mae rhai preswylwyr wedi bod yn ymroddedig i gadwraeth Gwern y Domen ers cyn gynhared â 2006. Mae ymgyrchwyr yn credu bod parodrwydd y bobl leol o bob cefndir i weithio gyda'i gilydd yn chwarae rôl sylweddol yn gwrthod y cynllun datblygu lleol a'r cais cynllunio.

Yn sicr mae gweithredoedd pobl leol wedi codi ymwybyddiaeth a gwerthfawrogiad o Wern y Domen a phwysigrwydd ardaloedd gwyrdd, cydlyniad cymunedol a chydlyniad cymdeithasol. Roedd hefyd yn rhoi'r cyfle iddynt ddweud eu dweud o ran gwneud penderfyniadau, boed drwy brotest neu wrthwynebiad ar-lein. 

Mae nifer o'r bobl sy'n ymladd dros Wern y Domen yn cerdded y caeau hyn bob dydd, gan edmygu ei harddwch. "Natur sydd wedi ein hachub ni!" medd rhai yn aml. Mae plant ac oedolion yn dal i fwynhau'r lle gwyrthiol hwn, lle gallant ddysgu am rywogaethau sy'n unigryw i'r ardal hon ac i Gymru. Mae cerdded y caeau yn gwneud iddynt werthfawrogi beth sydd ganddynt a beth a allant ei golli.

Yn anffodus, mae Gwern y Domen yn dal i fod dan fygythiad datblygiad ac erbyn hyn mae gan breswylwyr bryderon eraill, sy'n cynnwys hela llwynogod, cael gwared ar berthi, gwastraff a beicwyr yn rasio drwy'r caeau. Felly, beth mae'r rhain yn ei olygu i Wern y Domen? Er bod y dyfodol yn ansicr, y gobaith yw y bydd digon o bobl yn dod ynghyd unwaith eto i atal cynlluniau datblygu'r dyfodol - mae'r safle hwn yn rhy werthfawr i droi ein cefnau arno.

 

'Blaenoriaeth genedlaethol'                                                                                                      

Mae Cynllun Gweithredu Hinsawdd Cyfeillion y Ddaear Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod pob aelwyd o fewn taith gerdded 5 munud o ardal werdd gyhoeddus.

Dylai arbed ein hardaloedd gwyrdd fod yn flaenoriaeth genedlaethol, fel arall bydd ein cefn gwlad gwerthfawr yng Nghymru, gan gynnwys dolydd blodau gwylltion, coetiroedd, a fflora a ffawna prin yn cael eu colli am byth, ac yn eu lle bydd ystadau di-rif o dai a pharciau busnes.

Mae'r hyn a ddigwyddodd yng Ngwern y Domen yn enghraifft dda o sut all pŵer dynol arbed ardal werdd drwy roi pwysau ar y cyngor lleol i wrthod cais caniatâd datblygwr. Wedi dweud hynny, a ddylai ffawd safleoedd tir gwyrdd y dyfodol sydd dan fygythiad datblygiad, megis Gwern y Domen, ddibynnu ar ymgyrchwyr yn rhoi pwysau ar awdurdodau cynllunio?foe

Share this page