Ein hymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar gartrefi cynnes

Mae Cyfeillion y Ddaear Cymru wedi ymateb i ddogfen ymgynghori Llywodraeth Cymru, 'Cynigion ar gyfer iteriad nesaf y Rhaglen Cartrefi Clyd'.

Cosy image of a desk with a laptop and cat on a blanket

Llun gan Ioana Tabarcea ar Unsplash

Mae'r ffigyrau diweddaraf a gyhoeddwyd ar gyfer tlodi tanwydd yng Nghymru yn amcangyfrif bod 144,504 o aelwydydd yng Nghymru mewn perygl o fod mewn tlodi tanwydd, gan eu bod yn gwario rhwng 8% a 10% o incwm yr aelwyd ar gostau tanwydd. Roedd hyn yn cyfateb i 11% o'r aelwydydd yng Nghymru.

Mae'r ddibyniaeth ar nwy ar gyfer gwresogi a'r cynnydd byd-eang ym mhris nwy yn golygu bod y ffigyrau hyn yn amcangyfrifon llawer rhy isel o'r ffigwr go iawn.  Cynyddodd y cap ar brisiau ynni 54% ar 1 Ebrill. Mae National Energy Action wedi rhagamcanu y bydd o leiaf 280,000 o aelwydydd mewn tlodi tanwydd, wrth i filiau ynni gynyddu tua £700 ar gyfartaledd. Mae hyn yn gynnydd o 80% o'i gymharu ag amcangyfrifon Llywodraeth Cymru yn 2018. Mae'n ymddangos y bydd y sefyllfa'n fwy difrifol fyth ym mis Hydref, gyda llawer o ddadansoddwyr yn rhagweld cynnydd arall mewn prisiau, o £1,000 neu fwy.

Rydym yn croesawu ymrwymiad y Llywodraeth i gyhoeddi rhagamcanion ar gyfer lefelau tlodi tanwydd yn hytrach na dibynnu ar ddata hanesyddol, a chredwn fod hyn yn hollbwysig er mwyn gwybod beth yw graddfa'r broblem a gallu asesu faint o gyllid sydd ei angen ar gyfer iteriad nesaf y Rhaglen Cartrefi Clyd.

Gallwch lawrlwytho ein hymateb i 'Cynigion ar gyfer iteriad nesaf y Rhaglen Cartrefi Clyd' drwy glicio isod.

Share this page