Cynllun Gweithredu Hinsawdd i Gymru

Mae Cymru ar groesffordd hollbwysig yn ei hanes ac mae angen iddi fynd i'r afael â sawl argyfwng – adferiad COVID-19, yr argyfwng hinsawdd ac ecolegol ac anghydraddoldebau parhaus yn ein cenedl.

Efallai fod rhai yn credu y dylid blaenoriaethu cynnyrch domestig gros a thwf economaidd yn dilyn y niwed a achoswyd gan COVID-19. Serch hynny, rydym ni'n gwybod mai'r hyn sy'n bwysig yw pobl, cymunedau, a gwella'r byd i'n cenedlaethau ifanc. Mae angen Cynllun Gweithredu Hinsawdd manwl ar Gymru sy'n ein hachub rhag COVID-19 ac yn sicrhau dyfodol tecach a mwy cynaliadwy i'r bobl a'r blaned.

Rydym wedi ysgrifennu cynllun manwl y gallwch ei lawrlwytho (gwelwch isod), neu gallwch ddarllen crynodeb o'r prif bolisïau y dylem ei dilyn.

 

Share this page