Llythyr agored - gwahardd rhwydau plastig mewn tywyrch porfa

Published: 10 Jul 2025

Gall rhwydi plastig mewn tywyrch porfa ladd anifeiliaid bach fel draenogod ac adar ac yn achosi microblastigau. Mae ymgyrchwyr wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru, yn galw ei wahardd.
© Michael Gäbler / Wikimedia Commons

Huw Irranca-Davies MS
Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Llywodraeth Cymru

Annwyl Huw

Rhoi’r gorau i ddefnyddio rhwydau plastig mewn tywyrch porfa yng Nghymru  

Yn y blynyddoedd diweddar, mae rhai cyflenwyr tywyrch porfa wedi dechrau defnyddio rhwydau rhwyll plastig yn eu tywyrch porfa.  

Fodd bynnag, mae llawer o anfanteision i’r rhwydau plastig hyn, a gallant ladd anifeiliaid bach fel draenogod ac adar wrth i’r rhwydau ddod yn rhydd o’r tywyrch. 

Mae draenogod yn mynd yn sownd yn y rhwydau hyn, ac maent wedi’u canfod mewn nythod draenogod lle mae’r draenogod ifanc yn mynd yn sownd ynddynt. Fel y gwyddom, yn drist iawn, mae draenogod bellach yn rhywogaeth ‘bron dan fygythiad’ mewn sawl ardal ac fe ddylem wneud mwy i’w gwarchod yng Nghymru.  

Gall adar hefyd fynd yn sownd ynddynt wrth iddynt gloddio am fwyd a gall y rhwydau hefyd ddal anifeiliaid sy’n cloddio. 

Bydd y rhwydau plastig yn clymu o amgylch celfi’r ardd neu beiriannau’r ardd, gan wneud garddio’n anoddach. Pe byddai perchnogion tai yn dymuno codi’r tywyrch, yna mae cael gwared ohonynt yn broblem hefyd gan eu bod yn cynnwys plastig. 

Yn y pen draw, fe wnaiff y rhwydau dorri i lawr yn ddarnau llai fyth o ficroblastigau a nanoblastigau, sydd hefyd yn gallu rhyddhau’r cemegau sydd ynddynt. Fel y gwyddom, dylem fod yn ymgyrchu yn erbyn yr holl ffynonellau posibl o ficroblastigau, a dylai’r rhwydau hyn fod yn un o’r mathau hawsaf i’w gwaredu gan nad oes angen rhwydau plastig mewn tywyrch porfa.  

Ym mis Ionawr 2025, penderfynodd Turfgrass Growers Association (TGA) y DU, y prif gorff sy’n cynrychioli diwydiant tywyrch y DU, i wahardd y defnydd o rwydau plastig gan ei aelodau wrth gynhyrchu tywyrch. Mewn pleidlais, cafodd y penderfyniad gefnogaeth ysgubol yr aelodau, a daw i rym o’r 31ain Hydref 2026. Fodd bynnag, nid yw pob cyflenwr tywyrch yn aelodau o TGA, felly hoffem weld camau pellach yn cael eu cymryd yng Nghymru gan fod gennym y pwerau angenrheidiol yma, oherwydd datganol, i fynd i’r afael â llygredd plastig, a hefyd dan reoliadau tai a chynllunio.  

Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn galw ar Lywodraeth Cymru i gydnabod y difrod all rhwydau plastig mewn tywyrch eu cael ar ein bywyd gwyllt a’n hamgylchedd, ac i gwrdd â ni i drafod yr hyn y gellir ei wneud yng Nghymru i’w dileu. 

 

Yn gywir

Cyfeillion y Ddaear Cymru

Turfgrass Growers Association 

British Hedgehog Preservation Society 

Wildlife Gardening Forum 

Achub Draenogod Morgannwg

Hedgehog Helpline 

Adam Jones, garddwr, dylanwadwr cyfryngau cymdeithasol a chyflwynydd teledu

Dylan ac Lorraine Allman, Hedgehog Aware 

 

 

Share this page