Gwahardd rhwydi plastig mewn tyweirch glaswellt yng Nghymru
Llofnodwch ddeiseb y Senedd i ddiogelu draenogod, adar a chreaduriaid eraill y gellir eu dal yn y plastig a geir mewn tyweirch.

Mae'r arfer o roi rhwydi plastig (neu plastic mesh netting) mewn tyweirch glaswellt wedi bod yn ddatblygiad cynyddol bryderus dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Mae'n cael effaith ofnadwy ar ein hamgylchedd, gall arwain at fywyd gwyllt yn cael ei ddal yn y rhwydi pan fyddant yn dod yn amlwg ac mae'n rhywbeth, yn syml, nad oes ei angen.
Nid yw'r rhwydi plastig eu hunain byth yn diflannu, ond yn hytrach yn torri i lawr yn ronynnau microplastig llai a llai o faint, gan lygru ein pridd a rhyddhau'r cemegau sydd ynddynt.