Cefnogaeth gref ymhlith y cyhoedd i raglen cartrefi clyd uchelgeisiol

Published: 31 Mar 2023

Mae bron i 4000 o bobl yng Nghymru wedi llofnodi deiseb yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau brys er mwyn gwneud ein cartrefi’n gynhesach ac yn fwy fforddiadwy i’w gwresogi.

 

Campaigners holding up placards on steps
Climate Cymru a Chyfeillion y Ddaear Cymru y tu allan i swyddfeydd Llywodraeth Cymru ar 29 Mawrth 2023

Mae pobl yng Nghymru yn cael anhawster i dalu eu biliau ynni. Mae’r argyfwng ynni yn effeithio mwy arnom ni nag ar rannau eraill o’r DU, yn rhannol oherwydd ein cartrefi – gan fod ynni yn dianc trwy doeau heb eu hinswleiddio, trwy waliau a thrwy ffenestri.

Disgwylir i Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd, wneud cyhoeddiad cyn bo hir ynglŷn â rhaglen cartrefi clyd Llywodraeth Cymru.

Mae’r ddeiseb, sy’n galw am atebion gwirioneddol fel inswleiddio cartrefi, rhagor o ynni adnewyddadwy, rhoi’r gorau i ddefnyddio tanwyddau ffosil a chymorth ariannol i’r rhai mewn angen, yn dangos bod yna gefnogaeth gref i’w chael ymhlith y cyhoedd i raglen cartrefi clyd uchelgeisiol.

Photo of Haf Elgar
Haf Elgar, Director of Friends of the Earth Cymru

Haf Elgar, Cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru

Medd Haf Elgar, Cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru:

“Dydyn ni ddim eisiau wynebu gaeaf arall fel yr un a gawson ni eleni. Ddylai neb orfod dewis rhwng gwresogi a bwyta. Mae angen inni helpu’r rhai sydd yn yr angen mwyaf. Trwy wneud ein cartrefi yn fwy ynni-effeithlon, bydd modd gostwng biliau a lleihau allyriadau carbon.

“Mae’r ddeiseb hon yn dangos i Lywodraeth Cymru cymaint o gefnogaeth a geir i atebion gwirioneddol a all ymdrin â’r argyfwng costau byw: inswleiddio cartrefi, rhagor o ynni adnewyddadwy, rhoi’r gorau i ddefnyddio tanwyddau ffosil a chymorth ariannol i’r rhai mewn angen.”

Trefnwyd y ddeiseb gan Climate Cymru gyda chymorth gan Gyfeillion y Ddaear Cymru, ac fe’i cyflwynwyd i Lywodraeth Cymru ar 30 Mawrth 2023.

Campaigners holding up placards on steps

 

Share this page