Plannu neu noddi coeden
Published: 15 Feb 2022

Mae coed yn bethau anhygoel, maen nhw’n helpu i fynd i'r afael ag anhrefn yn yr hinsawdd, glanhau ein hawyr, darparu cartref a lloches ar gyfer amrywiaeth enfawr o bethau byw, oeri ein trefi a'n dinasoedd a helpu ein lles.
Os oes gennych chi ychydig o le yn eich gardd a ffansi plannu coeden yna mae llawer o wybodaeth ar gael i'ch helpu. Edrychwch ar Coed Cadw, Eden Project, ac RHS,

Efallai yr hoffech chi hefyd ddod yn rhan o'r Ymgyrch Triliwn o Goed a sefydlwyd gan yr Almaenwr Felix Finkbeiner (oedd yn 9 mlwydd oed bryd hynny!).
Os nad oes gennych chi unrhyw le gartref neu os nad yw eich gardd yn addas i blannu unrhyw goed neu hyd yn oed os hoffech gefnogi mwy o blannu coed mewn ardaloedd eraill, efallai yr hoffech feddwl am noddi coeden. Nid yw'n syndod bod llu o gynlluniau o'r fath ar gael. A oes unrhyw rai yn eich ardaloedd lleol y gallech eu cefnogi?
Dyma rai enghreifftiau ac opsiynau:
Coed Cadw, Maint Cymru, Coed ar gyfer y Dyfodol, Coedwig y GIG,Y Goedwig Genedlaethol,Ymddiriedolaeth Tir y Byd,TreeSisters, International Tree Foundation a Triliwn o Goed.
A pheidiwch ag anghofio am y gwenyn!