Mannau gwyrdd
Published: 15 Feb 2022
Llun drwy garedigrwydd Kirsty Luff
Mae poblogaethau anifeiliaid byd-eang wedi lleihau o 68% ar gyfartaledd ers 1970.
Mae adroddiad ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi tynnu sylw at y ffaith mai ychydig iawn o gynefinoedd bywyd gwyllt sydd yng Nghymru mewn cyflwr da.
Mae gweithwyr iechyd proffesiynol yn rhagnodi mannau gwyrdd ar gyfer ein hiechyd meddwl a chorfforol, ac eto nid yw mwy na hanner yr holl aelwydydd mewn dros 300 o gymdogaethau ledled Cymru o fewn taith gerdded 5 munud o fannau gwyrdd hygyrch.
Yr hyn rydyn ni’n galw amdano?
Rydym yn galw ar i bob aelwyd yng Nghymru fod o fewn taith gerdded 5 munud o fannau gwyrdd cyhoeddus, ac i hyn fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru.
Er mwyn i hyn ddigwydd, rhaid diogelu mannau gwyrdd yn briodol, a chreu llawer mwy drwy ail-wneud mannau eraill fel meysydd parcio.
Dylai Llywodraeth Cymru hefyd osod targed o 100,000 hectar o goetir newydd erbyn 2030, a'i ymestyn i gynnwys 100,000 hectar ychwanegol ym mhob degawd dilynol.