Jenny Lloyd

Mae Jenny yn actifydd amgylcheddol o Sir Gaerfyrddin sy'n angerddol dros ymhelaethu lleisiau cymunedau mewn atebion ar gyfer taclo’r argyfyngau hinsawdd a natur.

Mae hi wedi gweithio’n flaenorol mewn rolau cynaliadwyedd yn y sectorau addysg uwch, ynni adnewyddadwy a chyhoeddus – yn fwyaf diweddar yng Nghymdeithas Llywodraeth Leol Cymru lle wnaeth hi arwain rhaglen i gefnogi cynghorau a’r parciau cenedlaethol gyda’u cynlluniau datgarboneiddio ac addasu i newid hinsawdd.

Mae Jenny wrth ei bodd yn y môr a chrwydro mynyddoedd ac arfordir Cymru gyda’i chi, Blaidd, i chwilio am safleoedd hynafol a hen eglwysi.

Share this page