Haf Elgar

 

Haf yw Cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru. Cyn hyn hi oedd Ymgyrchydd y mudiad yng Nghymru, ac mae wedi gweithio i Gyfeillion y Ddaear Cymru ers 2008.

Yn y blynyddoedd diwethaf bu'n arwain tim a ymgyrchodd yn llwyddiannus dros Gymru di-danwyddau ffosil gyda dim rhagor o gloddio glo brig na ffracio, a chefnogi rhwydwaith gynyddol o rwpiau lawr gwlad ledled Cymru. Bu'n gweithio ar y cyd i rwystro ffordd liniaru'r M4, dylanwadu ar ddeddfwriaeth hinsawdd a deddf arloesol Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, ac mae'n ymgyrchu ar nifer o faterion cyfiawnder hinsawdd gan gynnwys llygredd aer a thlodi tanwydd.

Mae Haf yn Is-Gadeirydd Awyr Iach Cymru, yn eistedd ar fyrddau rheoli Climate Cymru a'r Glymblaid Tlodi Tanwydd ac mae'n gyn Gadeirydd cynghrair Atal Anhrefn Hinsawdd Cymru.

Cyn hynny, bu’n gweithio yn Senedd Ewrop ac astudiodd ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth a Phrifysgol Caeredin.

Share this page