Gadewch i ni droi Dydd Gwener Du yn Ddydd Gwener Gwyrdd

Published: 22 Nov 2021

Mae Dillad a Thecstilau Cynaliadwy Cymru, sef casgliad o fusnesau a sefydliadau a leolir yng Nghymru, wedi lansio ymgyrch o’r enw #GwenerGwyrdd mewn ymdrech i annog pobl i droi eu cefnau ar y Dydd Gwener Du a gynhelir ar 26 Tachwedd.

Llun o Gwener Gwyrdd

 

Yr hyn y mae Dillad a Thecstilau Cynaliadwy Cymru yn gofyn i bobl ei wneud yw ‘gwrthod prynu stwff anghynaliadwy’ dim ond am ei fod ar gael yn rhatach, yn ogystal â rhannu’r graffigyn ‘Dw i’n cefnogi #GwenerGwyrdd’ ar sianeli cyfryngau cymdeithasol.

Yr hyn y mae Dillad a Thecstilau Cynaliadwy Cymru yn gofyn i bobl ei wneud yw ‘gwrthod prynu stwff anghynaliadwy’ dim ond am ei fod ar gael yn rhatach, yn ogystal â rhannu’r graffigyn ‘Dw i’n cefnogi #GwenerGwyrdd’ ar sianeli cyfryngau cymdeithasol.

Yn ystod ffenomen y Dydd Gwener Du, a ddaeth i’r amlwg yn gyntaf yn yr Unol Daleithiau, mae manwerthwyr yn hyrwyddo ‘bargeinion’, ys dywedir, er mwyn annog pobl i brynu mwy yn ystod y cyfnod sy’n arwain at y Nadolig.

Fodd bynnag, gan fod 80% o’r eitemau a brynir yn ystod y Dydd Gwener Du yn cael eu bwrw o’r neilltu heb iddyn nhw gael eu defnyddio o gwbl neu ar ôl iddyn nhw gael eu defnyddio unwaith yn unig, mae’r arfer wedi arwain at brynu llawer mwy o bethau ac mae hyn, yn ei dro, yn cyfrannu at broblemau amgylcheddol fel cynhesu byd-eang a defnyddio deunyddiau mewn modd anghynaliadwy.

Felly, mae Dillad a Thecstilau Cynaliadwy Cymru yn hyrwyddo neges ‘Gwener Gwyrdd’ ac yn gofyn i bobl wneud addewid i beidio â phrynu unrhyw beth; neu, os byddan nhw angen prynu rhywbeth, eu bod yn addo cefnogi manwerthwyr a brandiau cynaliadwy Cymreig lleol.

Gall pobl ddangos eu cefnogaeth trwy droi eu cefnau ar y Dydd Gwener Du a defnyddio’r hashnod #GwenerGwyrdd / #GreenFriday ar y cyfryngau cymdeithasol.

Mae gan y diwydiant ffasiwn ôl troed carbon enfawr. Amcangyfrifir mai’r diwydiant hwn sy’n gyfrifol am oddeutu 10% o allyriadau nwyon tŷ gwydr y byd. Mae’n gollwng mwy o garbon na theithiau morgludo a theithiau hedfan rhyngwladol gyda’i gilydd, a chaiff ei ddosbarthu fel y diwydiant butraf ond un yn y byd – ail yn unig i’r diwydiant olew.

 

 

Medd Helen O’Sullivan, Sylfaenydd SustFashWales:

“Mae’r Dydd Gwener Du yn ein hannog i wario’n ofer, yn annog diwylliant o orddefnyddio ac yn annog gormodedd o stwff nad ydyn ni ei angen, ac yn y pen draw mae hyn yn arwain at bentwr o wastraff. Fodd bynnag, mae’r Dydd Gwener Gwyrdd yn anelu at rywbeth hollol wahanol trwy ganolbwyntio o’r newydd ar y brandiau a’r dylunwyr ffasiwn anhygoel sydd gennym yma yng Nghymru. Os ydych wir angen siopa yn ystod y Dydd Gwener Du, beth am bori trwy gyfeiriadur SustFashWales a dewis brandiau sydd â chyfrifoldeb amgylcheddol a chymdeithasol wrth eu calon a’u craidd! Defnyddiwch bŵer y defnyddwyr at achos da!”

 

Yn ôl Phoebe Brown, Cyfarwyddwr Caffi Trwsio Cymru:

“A ninnau ar drothwy’r Dydd Gwener Du, mae Caffi Trwsio Cymru yn un o blith llu o sefydliadau sy’n galw ar y cyhoedd i ailystyried faint o bethau maen nhw angen eu prynu. Mae trwsio eitemau yn ffordd wych o leihau gwastraff ac arbed arian. Y #GwenerGwyrdd hwn, pam nad ewch chi ati i drwsio rhywbeth sy’n eiddo ichi yn barod yn hytrach na phrynu pethau newydd.”

 

Medd Gabrielle Diana, sylfaenydd Onesta, sef gwneuthurwr a manwerthwr dillad cynaliadwy a leolir yng Nghymru:

““Fel busnes bach sydd wastad yn rhoi’r lle blaenaf i gynaliadwyedd a’r blaned, rydw i’n credu ei bod hi mor bwysig inni gefnogi mudiadau fel y Dydd Gwener Gwyrdd. Fel cymdeithas, rhaid inni roi’r gorau i orddefnyddio a gorwario’n ofer gan fod hyn i gyd yn effeithio ar ein planed. Hyd yn oed ar ôl COP26 a’r dathliadau ynglŷn â’r addewidion a wnaed, mae yna gymaint o ymgyrchoedd marchnata sy’n annog pobl i wario ar y Dydd Gwener Du. Rhaid inni weithio gyda’n gilydd a hyrwyddo’r busnesau hynny sy’n annog pobl i droi eu cefnau ar y diwylliant defnyddio a gwneud dewisiadau gwell er budd y blaned.”

 

 

 

Share this page