Dros 65,000 o blant ysgol mewn perygl o lygredd aer niweidiol

Published: 19 Jun 2025

Mae gan bron i 8 o bob 10 cymdogaeth yng Nghymru, gan gynnwys dros 200 o ysgolion yng Nghymru, ansawdd aer anniogel, yn ôl y dadansoddiad diweddaraf gan Gyfeillion y Ddaear, a ryddhawyd gan Awyr Iach Cymru ar Ddiwrnod Aer Glân.
Disgyblion yn Ysgol Gynradd Parc y Rhath
  • Mae 79% o gymdogaethau yng Nghymru gyda lefelau llygredd aer uwch na lefelau Sefydliad Iechyd y Byd.
     
  • Mae 203 o ysgolion mewn cymdogaethau sy'n torri canllawiau Sefydliad Iechyd y Byd ar lygredd aer.

Gwelwch y data


Wrth ddadansoddi'r data llygredd aer diweddaraf ar gyfer 2021-2023 gan Adran yr Amgylchedd, Ffermio a Materion Gwledig (DEFRA) y DU3, mae Cyfeillion y Ddaear wedi creu map sy'n nodi cymdogaethau â lefelau llygredd aer sy'n uwch na chanllawiau Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) ar gyfer nitrogen deuocsid (NO2) a mater gronynnol (PM2.5).   

Nododd y dadansoddiad fod 202 o ysgolion a mwy na 65,000 o blant dan 18 oed yn byw mewn ardaloedd lle'r oedd lefelau NO2 neu PM2.5 yn uwch na chanllawiau’r WHO, gan effeithio ar ddatblygiad eu hysgyfaint.

Mae'r 10 ysgol waethaf ar gyfer NO2 a PM 2.5 yng Nghaerdydd, ond nid yw'r broblem wedi'i chyfyngu i'r brifddinas. Mae nifer o ysgolion yng Nghasnewydd, Abertawe, Caerffili, Bro Morgannwg a Chastell-nedd Port Talbot hefyd mewn cymdogaethau sy'n torri'r canllawiau ar gyfer y llygryddion hyn.

 

Dywedodd Joseph Carter, Cadeirydd Awyr Iach Cymru a Phennaeth y Cenhedloedd Datganoledig, Asthma and Lung UK Cymru:

“Dylai ysgolion fod yn lleoedd diogel i bobl ifanc. Mae'n syfrdanol darganfod bod miloedd o blant ysgol yng Nghymru yn anadlu aer peryglus, llygredig a allai niweidio eu hysgyfaint. 

“Mae llwybrau anadlu plant yn fach ac yn dal i ddatblygu, sy'n golygu eu bod yn fwy agored i anadlu aer llygredig nag oedolion. Mae plant hefyd yn anadlu'n gyflymach ac yn agosach at y ddaear, felly maent yn anadlu mwy o aer llygredig nag oedolion.”

“Er mwyn amddiffyn ein plant, ac achub bywydau pobl eraill sy’n agored i niwed, rydym yn annog Llywodraeth Cymru i gyflymu gweithredu Deddf yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) 2024 a basiwyd dros flwyddyn yn ôl. Mae cael deddf yn un peth, mae ei gweithredu fel y gall wneud gwahaniaeth yn beth arall.”

 

Dywedodd Haf Elgar, Is-gadeirydd Awyr Iach Cymru a Chyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru:

“Mae’r data yma’n amserol yn ein hatgoffa bod rhaid i ni fynd ymhellach ac yn gyflymach i lanhau ein haer budr.

“Mae llygredd aer yn effeithio fwyaf ar y rhai mwyaf agored i niwed yn y gymdeithas, sydd yn aml yn gwneud y lleiaf i’w achosi. Os yw Cymru o ddifrif ynglŷn â dod yn genedl decach a mwy cyfartal, rhaid i ni ddilyn addewidion i lanhau ein haer - er mwyn cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol. 

“Pasiodd y Senedd ddeddfwriaeth ar aer glân y llynedd. Nawr rhaid gweithredu’r ddeddf hon cyn gynted â phosibl, gan gynnwys gosod targedau uchelgeisiol ar gyfer lleihau PM2.5 ac NO2 yn ein haer.” 

 

Dywedodd Hugh Russell, Prif Weithredwr Plant yng Nghymru:

 "Nid moethusrwydd yw aer glân – mae'n hawl sylfaenol i blant. Ar Ddiwrnod Aer Glân, rhaid inni gydnabod bod yr aer anniogel o amgylch dros 200 o ysgolion yng Nghymru yn tramgwyddo'n glir ar yr hawl honno. Mae gan bob plentyn yr hawl i dyfu i fyny'n iach ac yn ddiogel, ac mae aer glân yn hanfodol i'r ddau. Y llynedd pasiodd Llywodraeth Cymru Ddeddf yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru); mae angen inni weld gweithredu go iawn nawr i sicrhau bod deddfwriaeth yn cyflawni newid ystyrlon i fabanod, plant a phobl ifanc ledled Cymru."

 

Dywedodd Mark Elliott, Llywydd Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd (CIEH):

"Mae'r dadansoddiad hwn sy'n cwmpasu ysgolion yng Nghymru yn tynnu sylw. Gwyddom fod ansawdd aer gwael yn creu risgiau iechyd i blant oherwydd bod eu hymennydd, eu hysgyfaint a'u horganau eraill yn dal i ddatblygu. Rydym yn annog Senedd Cymru i weithio gyda sefydliadau fel CIEH a Chyfeillion y Ddaear (FoE) a dangos mwy o uchelgais wrth symud ymlaen i amddiffyn cenedlaethau'r dyfodol."

 

Share this page