Dywedwch na i niwclear yng Nghwm Llynfi
Published: 3 Jun 2025

Mae preswylwyr, ymgyrchwyr a sefydliadau ar draws Cymru yn dod ynghyd i ymgyrchu yn erbyn cynnig i sefydlu gorsafoedd ynni niwclear newydd yn un o gymoedd de Cymru.
Mae’r frwydr i amddiffyn Cymru rhag peryglon niwclear yn un sydd wedi ei hymladd gan gymunedau ers degawdau.
Yn yr 80au fe wnaeth ymgyrchwyr berswadio pob cyngor sir yng Nghymru i ddatgan eu bod yn “Barthau Di-niwclear”, fe wnaethant orymdeithio i gomin Greenham i brotestio yn erbyn cadw taflegrau niwclear annel yng nghanolfan y Llu Awyr Brenhinol yno, a chodi llais yn erbyn ailddatblygu gorsaf bŵer Wylfa.
Fel y mae’r darn hwn gan CND Cymru yn ei ddangos, bob hyn a hyn mae’r bygythiad “niwclear” yn codi ei ben unwaith eto, gan alw’r gymuned leol yn ei hôl i’r llinell flaen i frwydro dros ddiogelwch eu hiechyd a’u hamgylchedd.
Ac mae’r frwydr honno’n parhau hyd heddiw.

Y cynnig
Cysylltodd ymgyrchwyr cymunedol o Gwm Llynfi ger Maesteg ddiwedd y flwyddyn ddiwethaf er mwyn gofyn am gymorth i greu ymgyrch yn erbyn bygythiad i adeiladu pedwar Adweithydd Modiwlaidd Bach (SMRs) yn y cwm.
Daw’r cynnig arfaethedig gan Last Energy, cwmni Americanaidd, sydd hyd yma heb osod unrhyw Adweithydd Modiwlaidd Bach yn unman yn y byd.
Mae Last Energy yn cynnal gwaith ymgysylltu cymunedol wrth i’r darn hwn gael ei ysgrifennu (Mai 2025), ac o ystyried eu bod wedi dechrau’r broses Datblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol (DNS) gyda Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PCAC), gallwn ddisgwyl gweld cais cynllunio llawn erbyn mis Chwefror 2026.
Mae preswylwyr lleol, ymgyrchwyr CND Cymru, ymgyrchwyr y Blaid Werdd ac Awdurdodau Lleol Di-niwclear wedi uno i ymgyrchu yn erbyn y bwriad hwn i adeiladu’r dechnoleg newydd hon sydd heb ei phrofi lawer.
Os caniateir i’r cynnig hwn fynd yn ei flaen, bydd yn bygwth ein hiechyd, ein hamgylchedd a’n cymunedau am genedlaethau i ddod.
Dyma 4 rheswm pam mae adeiladu adweithydd modiwlaidd ar raddfa fach yn syniad mor wael.
1. Nid yw ynni niwclear yn ddiogel
Canfuwyd bod ynni niwclear yn beryglus i’n hiechyd a’n hamgylchedd. Mae ymbelydredd yn wenwynig ac yn achosi canser. Mae’r astudiaeth KiKK yn yr Almaen wedi canfod cynnydd o 120% yn yr achosion o lewcemia mewn plant sy’n byw o fewn 5km i orsafoedd ynni niwclear.
Mae damweiniau niwclear yn cael effaith eang a hirhoedlog. Bu’n rhaid i gynnyrch o ffermydd Cymru oedd wedi’u heffeithio gan ymbelydredd o Chernobyl, a gafodd ei gludo gan y gwynt dros 2000 o filltiroedd, gael ei brofi am 25 mlynedd wedi’r ddamwain. Wedi damwain Fukushima, cafodd 80,000 o bobl eu symud oddi yno ac mae nifer o drefi’n parhau i fod ar gau i bobl - a byddant yn dal yn rhy anniogel i neb fyw yno ymhen 100 o flynyddoedd.
Mae adweithyddion niwclear modiwlaidd bach, y math o adweithydd mae Last Energy yn bwriadu’i godi, yn dechnoleg newydd, ac felly’n un sydd heb ei phrofi’n iawn. Ers 2024, dim ond Rwsia a Tsieina sydd wedi adeiladu SMRs gweithredol, felly nid yw’r risgiau a achosir ganddynt na’u heffaith ar ein hiechyd a’n hamgylchedd yn hysbys eto.
2. Nid yw’n lân
Rwy’n siŵr ein bod ni i gyd wedi clywed y myth fod “ynni niwclear yn ynni gwyrdd”. Caiff y naratif hon ei rhannu gan lywodraethau a datblygwyr niwclear er mwyn ceisio cyfiawnhau eu cefnogaeth ar gyfer ffynhonnell ynni y mae tystiolaeth yn profi ei bod yn gwneud niwed i ni a’n hamgylchedd drwy honni bod budd ‘gwyrdd’ iddi.
Mae ynni niwclear yn cynhyrchu gwastraff ymbelydrol sy’n beryglus i bobl a bywyd gwyllt ac mae’n para am filoedd o flynyddoedd - rhoddodd Cymru’r gorau i fonitro ymbelydredd mewn defaid yn dilyn trychineb Chernobyl yn 2012. 26 mlynedd wedi’r ddamwain.
Os nad yw’n cael ei waredu neu ei reoli’n gywir, mae’r peryglon yn cynnwys dŵr daear sydd wedi’i ddifwyno a dod i gysylltiad ag ymbelydredd, sy’n gallu golygu goblygiadau hirdymor i’n hiechyd. Ddegawdau wedi i’r orsaf niwclear gyntaf agor yn y DU, does gennym ni ddim dull diogel o storio gwastraff niwclear. Bydd adeiladu gorsaf ynni niwclear newydd yng Nghwm Llynfi yn cynyddu’r gwastraff ymbelydrol y bydd angen delio ag ef.
Mae mwyngloddio wraniwm yn waith budr iawn - ac yn gwneud defnydd dwys o garbon - sy’n gadael tir a ffynonellau dŵr wedi’u llygru gan ddeunydd ymbelydrol a metelau gwenwynig. Mae mwyngloddiau wraniwm hefyd yn bygwth bywydau a diwylliannau pobl frodorol, ac yng Nghanada mae’n gorfodi pobl Dene a Chrïaidd o’u cartrefi. Gallwch ddarllen mwy am hyn yma.
Nid yw ffynhonnell ynni sy’n cael effaith mor niweidiol ar gymunedau mewn gwledydd eraill yn rhywbeth y dylai gwlad “sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang” fel Cymru fod yn ei hystyried.
3. Mae’n ddrud
Mae rhai sy’n adeiladu gorsafoedd ynni niwclear yn honni eu bod wedi dysgu gwersi o’r gorffennol ac y bydd ynni niwclear yn golygu ynni rhad. Ac eto, mae cost trydan sy’n cael ei gynhyrchu gydag ynni niwclear yn parhau i godi, tra bo cost ynni adnewyddadwy yn parhau i ddisgyn.
Bydd trydan o Hinkley Point C yn costio dros £130 / MWh i ni - wedi’i warantu a’i gysylltu â mynegai am 35 mlynedd - ond mae ynni gwynt alltraeth yn costio llai na £44 / MWh.
Mae datgomisiynu yn broses gostus. Mae cymunedau yng Nghymru wedi cael eu gadael o’r blaen gyda chostau glanhau a adawyd gan gwmnïau preifat.
Dylai’r ffocws nawr fod ar ynni adnewyddadwy ac ynni sy’n eiddo i’r gymuned er mwyn cynhyrchu ynni gwyrdd, glân a rhad i bawb.
4. Nid oes ei angen
Mae Cymru’n ffodus o’i hadnoddau naturiol, felly rydym yn gallu cynhyrchu’r holl bŵer sydd ei angen arnom.
Rydym eisoes yn wlad sy’n allforio ynni. Rydym yn cynhyrchu mwy na 50% o’n hanghenion o ran trydan drwy ynni adnewyddadwy, ac mae gennym ymrwymiad i fodloni 100% o’r galw drwy ynni adnewyddadwy erbyn 2035. Gall ynni’r llanw, ynni dŵr, ynni solar ac ynni gwynt o’r tir a’r môr, ynghyd ag effeithlonrwydd ynni, gynhyrchu’r holl drydan sydd ei angen arnom - nawr ac yn y dyfodol. Nid oes angen ynni niwclear arnom.
Mae gennym y dechnoleg i ddarparu trydan gwyrdd, adnewyddadwy a diogel yng Nghymru.
Cefnogwch yr ymgyrch a helpwch ni i atal ynni niwclear yng Nghwm Llynfi drwy lofnodi’r ddeiseb hon.
Os hoffech chi gymryd rhan yn yr ymgyrch, anfonwch neges e-bost at Na i Niwclear yng Nghwm Llynfi: [email protected]
Os hoffech chi gymryd rhan yn yr ymgyrch, anfonwch neges e-bost at Na i Niwclear yng Nghwm Llynfi: [email protected]