Lleihau gwastraff bwyd

Published: 26 Apr 2022

Mae gwastraffu bwyd yn cael effaith ddrwg ar yr amgylchedd - gan gynnwys yr hinsawdd.
A box full of recovered vegetables and fruits dug out of the waste of a hypermarket
Creative Commons Zero - A box full of recovered vegetables and fruits dug out of the waste of a hypermarket

 

Rydym yn gwastraffutua thraean o’r holl fwyd  sy’n cael ei gynhyrchu at ddefnydd dynol. 

Mae llawer o ddŵr ffres, tir a llafur yn cael ei ddefnyddio i gynhyrchu’r bwyd yma sy’n cael ei wastraffu.

Pe bai'n wlad, gwastraff bwyd fyddai'rdrydedd allyrrydd uchaf o nwyon tŷ gwydr [PDF]yn y byd. 

Diolch byth, mae casgliadau gwastraff bwyd wedi gwella dros y blynyddoedd diwethaf yng Nghymru, ond mae lle i wella o hyd, ac mae angen i ni gyd chwarae ein rhan.  

Cymerwch gip ar awgrymiadau Cyfeillion y Ddaear ynghylch mynd i’r afael â gwastraff bwyd fel lle da i ddechrau arni. 

Mae gan Love Food Hate Waste ddigonedd o wybodaeth a syniadau gwych! 

Cymerwch gip ar rai o’r apiau a all eich helpu chi i leihau gwastraff bwyd. 

Am ragor o syniadau ac awgrymiadau defnyddiol ynghylch beth i’w wneud mewn perthynas â gwastraff bwyd, ewch i’n hadran fwyd.

 

Pethau y gallwn ni eu gwneud

Diwastraff

Bwyd

Amdani!

Share this page