Suo i waith a bod yn gyfeillgar i wenyn
Published: 15 Feb 2022
Mae pryfed peillio yn dod mewn sawl ffurf wahanol o wenyn mêl, gwenyn cacwn a gwenyn unigol i wyfynod, https://www.thebuzzclub.uk/hoverfly-lagoonspryfed hofran a gloÿnnod byw.
Yn anffodus, mae llawer ohonynt yn dioddef o amrywiaeth o ffactorau gwahanol gan gynnwys colli cynefin a ffynonellau bwyd. Wrth lwc, mae digon o bethau y gallwn ni i gyd eu gwneud yn ein gerddi (waeth pa mor fach – neu hyd yn oed heb ardd!) ac yn ein cymunedau i helpu yr holl bryfed peillio.
Os hoffech chi helpu i wneud eich ardal yn fan swyddogol sy'n gyfeillgar i wenyn, beth am ddod at eich gilydd gyda rhai ffrindiau a chymdogion a gweithio tuag at achrediad Cyfeillgar i Wenyn swyddogol?
I gael rhagor o syniadau gwych am arddio sy'n gyfeillgar i wenyn, edrychwch ar yr adnoddau amrywiol hyn ac efallai y gallech ddod o hyd i ffordd hwyliog o ddathlu Diwrnod Gwenyn y Byd?
Cofiwch fod angen ffynonellau bwyd ar bryfed peillio yn barhaus felly meddyliwch am blannu blodau a phlanhigion sy'n rhoi bwyd iddynt ar wahanol adegau o'r flwyddyn pan fyddant yn weithgar.
Beth am gymryd rhan yn y Cyfrif Gwenyn y Byd blynyddol gan helpu Ymddiriedolaeth Cadwraeth Cacwn i gyfrif cacwn neu Gyfrif Glöynnod Byw Mawr y Gadwraeth Glöynnod Byw?
Mae gan Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, yr Ymddiriedolaethau Natur a'r RHS hefyd lwyth o syniadau ac adnoddau gwych a fideos ardderchog a rhestr ddefnyddiol o ganolfannau garddio organig.