Cymryd rhan mewn gwyddoniaeth dinasyddion
Published: 15 Feb 2022
Hoffech chi helpu i gasglu gwybodaeth am eich natur leol drwy apiau defnyddiol a fydd yn helpu i lywio ymchwil a pholisi?

Digwyddiad gwyddoniaeth dinasyddion yng Nghaerffili yn 2001
Mae cymryd rhan mewn prosiect gwyddoniaeth dinasyddion yn ffordd braf o helpu, ac ar yr un pryd mae dod yn rhan o rwydwaith o filoedd o wirfoddolwyr ledled y DU a'r byd ehangach.
Mae gwyddoniaeth dinasyddion (a elwir hefyd yn wyddoniaeth gymunedol, gwyddoniaeth dorfol, gwyddoniaeth ddinesig, neu fonitro gwirfoddolwyr) yn ymchwil wyddonol a gynhelir, yn gyfan gwbl neu'n rhannol, gan wyddonwyr amatur (neu rai nad ydynt yn broffesiynol).