Ffasiwn – am beth rydym ni’n galw

Published: 28 Mar 2022

Person holding a sign saying 'fixed' and a pair of trousers
Caffi atgyweirio yng Nghaerffili (diolch i Rupal)

 

Mae gwahanol fentrau yn y DU, a chynhaliodd Bwyllgor Archwilio Amgylcheddol Senedd y DU ‘Ymholiad i gynaliadwyedd y diwydiant ffasiwn’ eithaf cynhwysfawr yn 2018. Ail-ymwelwyd â’r adroddiad hwn oherwydd y pryderon cyson am effaith y diwydiant.

Ar lefel y DU, mae Rhaglen Weithredu’r Cynllun Gwastraff ac Adnoddau (WRAP) wedi llunio  

‘Cynllun Gweithredu Dillad Cynaliadwy‘

 

Angen datrysiad i Gymru

Er bod amryw byd o syniadau y gallwn eu cymryd o’r rhain, credwn y dylem fod yn chwilio am ddatrysiad sy’n benodol i Gymru ar y mater hwn. Datrysiad sy’n helpu i ddatblygu ar ein harferion ailgylchu da yng Nghymru, sy’n helpu i gynnal a chreu swyddi yng Nghymru ac yn cadw mwy o arian ac adnoddau yn economi’r wlad. Mae llawer o grwpiau a mudiadau ledled y wlad wrthi, ac wedi bod yn gweithio’n frwd i roi sylw i agweddau gwahanol ar ddefnyddio, ail-ddefnyddio, ailgylchu a lleihau ffasiwn a thecstilau. Mae diffyg gweithredu cydlynol sy’n cyfuno syniadau a gwaith ar draws y gwahanol sectorau hyn a chynllun gweithredu penodol i helpu’n cenedl ni symud ymlaen. Mae angen rhoi sylw i rai o’r agweddau negyddol ar ffasiwn gyflym a defnyddio tecstilau a rhoi glasbrint am ddyfodol a fydd yn helpu ein planed ond hefyd yn helpu i ddarparu swyddi mewn cymunedau ar draws Cymru ac arbed arian i deuluoedd.

 

Cynllun ffeirio gwisg ysgol

Mae Comisiynydd Plant Cymru a’i staff wedi bod yn gweithio gydag ysgolion a chymunedau ar gynllun ffeirio gwisg ysgol i helpu arbed arian i bobl a lleihau effaith gwisgoedd ysgol ar yr amgylchedd. Gallai hwn fod yn gynllun y gallai pob ysgol yng Nghymru ei gefnogi.

 

Gwahardd dillad heb eu gwerthu rhag mynd i safleoedd tirlenwi

Efallai y gallwn gael ysbrydoliaeth o gynlluniau eraill ar draws y byd neu ddilyn esiampl Ffrainc a gwahardd dillad heb eu gwerthu rhag cael eu dinistrio neu eu tirlenwi? Neu beth am edrych ar y cyfleoedd allai godi i fusnesau ffasiwn gynaliadwy bach, siopau elusen a siopau eco-gyfeillgar eraill i fod wrth wraidd adfywio canol tref? 

 

Cynllun gweithredu i Gymru

Felly, hoffem weld Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Dillad a Thecstilau Cynaliadwy Cymru a’r grwpiau sy’n perthyn, yn ogystal â rhanddeiliaid allweddol eraill yng Nghymru, i ddatblygu cynllun gweithredu ar gyfer yr hyn y gallwn ei wneud yng Nghymru ar draws gwahanol sectorau i wneud ffasiwn yn gylchol a rhoi Cymru ar lwybr tuag at fod yn wlad ffasiwn a thecstilau cynaliadwy.

Mae’r adroddiad ‘In a Spin’ gan Ffederasiwn Genedlaethol Sefydliadau’r Merched yn gwneud cyfres o argymhellion fel a wnaethpwyd gan Bwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig Cynulliad Cenedlaethol Cymru (gynt) yn ei adroddiad ym mis Mehefin 2019 ‘Adroddiad ar bolisïau a chynigion sy’n ymwneud â llygredd plastig a gwastraff deunydd pecynnu’.  

 

Ein hargymhellion

Hoffem hefyd weld y diwydiant dillad a thecstilau yn cael gwarchodaeth gan unrhyw reoliadau newydd o ran Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr a gyflwynir yng Nghymru ar gyfer pethau fel plastigion.

Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn adolygu’r dystiolaeth a’r wybodaeth ddiweddaraf ac yn llunio cynllun gweithredu penodol i Gymru i leihau llygredd plastig micro-ffibrau gyda gallu deddfwriaethol Cymru.

 

Pethau y gallwn ni eu gwneud

Ffasiwn Gynaliadwy

Amdani!

Share this page