Ail-lenwi eich dŵr
Published: 28 Feb 2022
Bydd llawer ohonom yn mynd â photeli dŵr amldro efo ni pan fyddwn ni’n gadael y tŷ. Diolch i wahanol ymgyrchoedd ail-lenwi, mae’n haws eu hail-lenwi pan fyddwn ni allan.
Mae Water UK yn amcangyfrif bod ‘dŵr potel tua 900 gwaith yn drymach ar garbon na dŵr tap’, a bod ‘7.7 biliwn o boteli dŵr plastig yn cael eu defnyddio yn y DU pob blwyddyn, gyda’r person cyffredin yn y DU bellach yn defnyddio 150 o boteli dŵr plastig pob blwyddyn’.
Er mwyn ceisio lleihau’r niferoedd erchyll hyn, dechreuodd City to Sea ymgyrch ail-lenwi yn 2015 i’w gwneud hi’n haws i bobl ailddefnyddio ac ail-lenwi eu poteli ar hyd y lle. Mae’r mudiad bellach yn fyd-eang.
Yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i Gymru fod y ‘cenedl ail-lenwi’ gyntaf yn y byd.
Felly, anghofiwch am y poteli dŵr o’r siop a dechreuwch ail-lenwi.
Gallwch wastad edrych yma ble i lenwi eich poteli.