Trafnidiaeth – beth yw’r broblem?

Published: 20 Apr 2022

Mae trafnidiaeth yng Nghymru yn gyfrifol am 17% o gyfanswm ein hallyriadau carbon yn flynyddol a thrafnidiaeth yw’r trydydd sector gwaethaf o ran allyrru nwyon tŷ gwydr.

People cycling on a main road

 

Mae trafnidiaeth yng Nghymru yn gyfrifol am 17% o gyfanswm ein hallyriadau carbon yn flynyddol a thrafnidiaeth yw’r trydydd sector gwaethaf o ran allyrru nwyon tŷ gwydr.

 

Dysgu gan wledydd eraill

Mae angen i ni sefydlu trafnidiaeth gyhoeddus fyd-eang a chynhwysfawr sydd yn ymdebygu i rwydweithiau trafnidiaeth gyhoeddus ardaloedd dinesig Munich, Vienna a Zurich. Yn yr ardaloedd hyn mae trafnidiaeth gyhoeddus yn gweithredu fel system sengl. Mae bysiau, tramiau a threnau tanddaearol a maestrefol yn cael eu cyd-drefnu gan gyrff llywodraethol trafnidiaeth gyhoeddus neu Verkehrsverbünde (VV) er mwyn darparu “un rhwydwaith, un amserlen, un tocyn” (Trawsnewid trafnidiaeth gyhoeddus)

Mae’r nifer sy’n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn drawiadol uwch yn y VVs a gellir amcangyfrif, pe bai ardaloedd trefol Cymru a Lloegr yn llwyddo i sicrhau niferoedd defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus debyg i ardaloedd dinesig Munich, Vienna a Zurich, yna byddai milltiredd ceir yn yr ardaloedd hyn yn cael ei haneru gan dros 9%. Byddai hyn yn gam arwyddocaol tuag at gyflawni’r gostyngiad sylfaenol o 20% mewn milltiredd ceir sydd ei angen er mwyn mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd.

 

Newid dulliau teithio

Byddai’r newidiadau angenrheidiol er mwyn lleihau’r allyriadau nwyon tŷ gwydr sy’n cael eu creu gan drafnidiaeth hefyd yn lleihau problemau megis llygredd aer a gordewdra. Byddai’r newidiadau yn sicrhau bod ein dinasoedd a’n trefi yn llefydd gwell i fyw ynddynt –ar gyfer pobl a byd natur.  

Nid yw’n ddigon newid i gerbydau trydan yn unig. Rydyn ni angen newid ein dulliau teithio – cael gwared â cheir a galluogi pobl i deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus a theithio’n llesol. Mae Cyfeillion y Ddaear yn amcangyfrif ein bod angen lleihau traffig gan 60% erbyn 2030 er mwyn cyflawni’r targedau newid hinsawdd.  

Yn 2021/22, buddsoddodd Llywodraeth Cymru £70 miliwn i gael mwy o bobl i gerdded a beicio gan ddefnyddio’r Gronfa Teithio Llesol, a bydd mwy o fuddsoddi yn digwydd mewn blynyddoedd i ddod. Mae’r Llywodraeth hefyd yn cynnig cyflwyno terfyn cyflymder 20mya mewn ardaloedd preswyl. 

Mae’r rhain yn gamau mawr ymlaen ond wrth i fwy a mwy o bobl ailddarganfod eu beiciau a chyda’r angen brys i ymateb i gyfraniad y sectorau trafnidiaeth at yr anhrefn hinsawdd yn ogystal â’r llygredd aer, mae mawr angen ailwampio sector trafnidiaeth Cymru. 

 

 

Awyrennu

Rydyn ni angen gweithredu hefyd mewn perthynas ag awyrennu. Yn 2019, roedd awyrennau yn cyfrannu at oddeutu 7% o allyriadau hinsawdd y DU (tudalen 6 ) ac mae’n un o’r sectorau trafnidiaeth sy’n allyrru'r mwyaf o garbon ac yn un o’r sectorau mwyaf anodd ei ddatgarboneiddio. Heb fynd i’r afael â hyn, y sector hwn fydd prif gyfranogwr allyriadau nwyon tŷ gwydr y DU erbyn 2050. 

Yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru yn berchen ar faes awyr Cymru Caerdydd ac yn ariannu’r cyswllt awyr gogledd-de rhwng Ynys Môn a Chaerdydd. Mae ffigyrau yn dangos bod y cyswllt awyr gogledd-de wedi costio £136 y teithiwr i drethdalwyr Cymru yn 2017-18.  Diweddariad - mae'r cymhorthdal ​​cyswllt awyr wedi'i ddileu!

Mae astudiaeth Cyfeillion y Ddaear yn dangos bod angen lleihau’r nifer o hediadau yn y DU gan o leiaf 18%erbyn2030 os ydyn ni’n bwriadu cyflawni ein targed ar gyfer allyriadau sero net. 

Gyda’r angen mawr i fynd i’r afael â’r anhrefn hinsawdd, nid yw’n gwneud synnwyr parhau i gefnogi dull o deithio mor arbenigol sy’n creu cymaint o lygredd.

Pethau y gallwn ni gwneud

Trafnidiaeth

Amdani!

Share this page