Swyddfa ddibapur?
Published: 21 Jan 2022
Ar gyfartaledd, mae gweithwyr swyddfa yn y DU yn argraffu 1,584 o ddalennau o bapur yr un y mis!
Digitise – fel y dywed Cofleidwyr Coed ‘y papur gwyrddaf yw dim papur o gwbl’.
Ac os oes angen prynu rhagor o bapur, gwnewch yn siŵr mai papur gwastraff defnyddwyr a phapur llwyd ydyw. Mae nifer o gyflenwyr cynnyrch papur ecogyfeillgar ar-lein.
Defnyddir rhwng 28 a 70% yn llai o ynni i gynhyrchu papur ailgylchu na phapur newydd sbon a defnyddir llai o ddŵr. Cliciwch yma am ragor o wybodaeth.
Os ydych yn prynu argraffydd newydd ewch am un ecogyfeillgar.
Os yw eich busnes yn defnyddio deunydd pacio, ceisiwch weld oes modd newid i ddeunydd pacio ecogyfeillgar.
Os ydych yn fusnes sy’n rhoi derbynebion, oes modd i chi newid i fusnes sy’n rhoi e-dderbynebion neu, o leiaf, ofyn i gwsmeriaid a ydynt yn dymuno cael argraffu eu derbynneb.
Post marchnata papur – os yw eich busnes neu eich cwmni'n defnyddio dulliau marchnata uniongyrchol papur, yna mae'n ychwanegu at y miliynau o daflenni sy'n cael eu hargraffu a'u dosbarthu i'n drysau, gyda’r rhan fwyaf yn cael eu rhoi yn y biniau ailgylchu neu mewn biniau cyffredin. Oes ffordd well i'ch cwmni hysbysebu?
Mae’r ddadl ‘sychwyr dwylo ynteu tywelion papur’ yn ddadl barhaus o ran perfformiad amgylcheddol a hylendid. Edrychwch ar yr erthygl hon a meddyliwch beth fyddai’r ateb gorau posibl i'ch busnes (os yw'n berthnasol, yn amlwg!).
Papur toiled – newidiwch i bapur wedi'i ailgylchu, mae'n hawdd!