Rhowch y gorau i ddefnyddio eich car neu ei ddefnyddio’n llai aml

Published: 20 Apr 2022

Rydyn ni’n gwybod bod tua 12% o allyriadau CO2 yr UE yn dod o geir a'i bod yn costio £3,500 y flwyddyn ar gyfartaledd i redeg car. Mae hynny’n lawer o arian!

Picture of exhaust pipe with fumes coming out

 

I rai ohonom, yn arbennig yn yr ardaloedd mwy gwledig pan nad ydy opsiynau teithio amgen realistig yn, wel, realistig (!), mae bod yn berchen ar gar yn ddewis amlwg.  Fodd bynnag mae yna rai ystadegau syfrdanol yn dangos bod 4 o bob 10 taith car byr o dan 2 filltir o hyd sy’n golygu y gallwn ni mae’n debyg ddefnyddio ein ceir yn llai aml . 

Mae Pwyllgor Dethol Gwyddoniaeth a Thechnoleg y DU wedi eirioli bob math o ddatrysiadau teithio, gan gynnwys lleihau’r niferoedd sy’n berchen ar gar personol.

Dangosodd astudiaeth yn 2017 mai’r ail beth mwyaf effeithiol y gall unigolyn ei wneud er mwyn mynd i’r afael â’r anhrefn hinsawdd yw byw heb gar (yn ail i beidio â chael plant).   

Ydy hyn yn rhywbeth gallwch chi ei wneud? 

Yn y cyfamser, byddai diffodd injan eich car pan rydych yn aros yn rhywle yn gallu bod o gymorth hefyd. 

 

Pethau y gallwn ni eu gwneud

Trafnidiaeth

Amdani!

Share this page