Mynd i’r Afael ag Anhrefn Hinsawdd - Canllaw ar gyfer cynghorau tref a chymuned

Mae Un Llais Cymru a Chyfeillion y Ddaear Cymru wedi casglu syniadau ynglŷn â’r hyn y gall Cynghorau Tref a Chymuned ei wneud yn y frwydr yn erbyn anhrefn hinsawdd a dinistr natur.
Tree planting in Caerphilly
Digwyddiad plannu coed cymunedol yng Nghaerffili

Bydd yr hyn y gall Cynghorau Tref a Chymuned gwahanol ei wneud yn dibynnu ar amryw o ffactorau wrth gwrs, felly rydym yn cynnig y rhain fel syniadau. Gallai rhai fod yn fwy perthnasol na’i gilydd ac mae’n bosib y bydd rhai ohonynt wedi’u gwneud eisoes yn eich ardaloedd chi. 

Mae rhai o’r syniadau yn bethau y gallwch eu gwneud fel Cynghorau Tref a Chymuned, gallai rhai olygu helpu a chefnogi’r mathau hyn o gynlluniau yn eich ardal leol ac mae’n bosib mai rôl yn rhannu gwybodaeth gyda thrigolion lleol fyddai fwyaf addas mewn rhai achosion, trwy gylchlythyron lleol, byrddau gwybodaeth neu ddigwyddiadau er enghraifft.  

Os ydych chi’n awyddus i gael rhagor o syniadau a gwybodaeth am yr hyn y gall unigolion a chymunedau ei wneud, ewch i’r wefan hon.

Share this page