Mudiadau yng Nghymru yn galw am rwydwaith newydd o lyfrgelloedd teganau

Published: 10 Mar 2025

Mae Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru a Chomisiynydd Plant Cymru wedi ymuno â Chyfeillion y Ddaear Cymru, Blynyddoedd Cynnar Cymru a The Honeycomb Toy Library yng Nghaerdydd i gefnogi menter ar y cyd.
Photo of a toddler holding toys
Llun trwy garedigrwydd The Honeycomb Toy Library

 

Mewn llythyr agored, mae’r ymgyrchwyr yn galw am Lywodraeth Cymru i gyflwyno rhwydwaith o lyfrgelloedd teganau yng Nghymru.

Ar gyfartaledd, mae rhieni a gofalwyr yn gwario dros £430 ar deganau i’w plant bob blwyddyn. Gall llyfrgelloedd teganau helpu i arbed arian i deuluoedd trwy ddarparu amrywiaeth o deganau, posau a gemau hwyliog ac addysgol i'w benthyca neu eu llogi am ffi fach iawn.  Mae hyn yn rhoi mynediad i blant at ystod ehangach o deganau na fyddent o bosibl yn dod ar eu traws fel arall oherwydd cyfyngiadau cost neu hyd yn oed ofod gartref, sy’n tanio eu dychymyg ac yn cyfrannu at eu datblygiad.

Mae llyfrgelloedd teganau'n gweithredu fel canolbwynt cymunedol, gan ddod â rhieni a gofalwyr plant ifanc at ei gilydd. Mae rhai llyfrgelloedd teganau yn cael eu cynnal mewn mannau cymunedol presennol lle mae posibilrwydd i rieni gael paned a sgwrsio â rhieni eraill. Gall hyn ynddo'i hun helpu i greu cyfeillgarwch a chysylltiadau cymunedol parhaol. 

Hefyd, mae manteision i'r amgylchedd. Gall llyfrgelloedd teganau leihau annibendod mewn cartrefi, gan annog diwylliant o leihau, ailddefnyddio ac ailgylchu. Bydd defnyddio llai o deganau (plastig yn bennaf) yn golygu bod llai o deganau'n cael eu taflu ac yn mynd i safleoedd tirlenwi. Mae hyn yn golygu ein bod yn defnyddio llai o blastig a - hyd yn oed os mai dim ond mewn ffordd fach - rydym yn lleihau ein hallyriadau hinsawdd hefyd.

Ledled y byd, ar hyn o bryd rydym yn cynhyrchu mwy na 350 miliwn o dunelli metrig o wastraff plastig y flwyddyn. Os na awn i'r afael â hyn, rhagwelir y bydd yn treblu erbyn 2060, i'r swm syfrdanol o biliwn o dunelli metrig.   

Gyda’r rhan fwyaf o blastig yn cael ei wneud o olew, amcangyfrifir oni bai ein bod yn gwneud rhywbeth yn ei gylch, erbyn 2050, y gallai plastig gyfrif am tua 20% o'r holl ddefnydd o olew yn fyd-eang.   

Yn amlwg, ni fydd llyfrgelloedd teganau yn mynd i'r afael â'r broblem gyfan ond mae ganddynt ran fach i'w chwarae.

 

Dywedodd Bleddyn Lake, llefarydd Cyfeillion y Ddaear Cymru:

“Mae llyfrgelloedd teganau yn wych ar gyfer arbed arian i deuluoedd. Gallant hefyd helpu plant i gael mynediad at deganau a gemau na fyddent o bosibl yn gallu eu fforddio fel arall.

“Rydyn ni'n gwybod bod plant yn gallu diflasu ar deganau yn eithaf cyflym ac mae llawer o deganau'r dyddiau hyn yn rhai plastig sydd wedi'u gwneud yn wael nad ydyn nhw bob amser yn para'n hir iawn beth bynnag.

“Mae llyfrgelloedd teganau wedi bod yn hynod boblogaidd dros y ffin yn Lloegr ers blynyddoedd lawer yn barod ond yma yng Nghymru dim ond llond llaw bach sydd gennym. Teimlwn fod cyfle gwirioneddol yma i Lywodraeth Cymru ddod ag arbenigwyr a mudiadau perthnasol yng Nghymru ynghyd i lunio cynllun i ddatblygu rhwydwaith newydd o lyfrgelloedd teganau yng Nghymru a thrwy hynny helpu i arbed arian i deuluoedd yn ogystal â chyfrannu at economi gylchol Cymru.”

 

Dywedodd Maia Banks, perchennog a sylfaenydd The Honeycomb Toy Library yng Nghaerdydd:

“Mae gan lyfrgelloedd teganau y cryfderau cyfunol gwych o adeiladu cymuned ar gyfer teuluoedd ifanc a hyrwyddo arferion ecogyfeillgar o oedran cynnar.  Ethos fy llyfrgell deganau fy hun yng Nghaerdydd yw 'adeiladu cymuned trwy chwarae' a dyna dwi'n ymdrechu i'w wneud ym mhob sesiwn.  Mae'r gallu i fenthyg teganau, yn enwedig rhai drud na all llawer o deuluoedd fforddio bod yn berchen arnynt yn llwyr, yn un o fanteision mawr llyfrgelloedd teganau.  Ond yr ochr arall iddynt yw eu bod yn cynnig ffordd hawdd a chost isel i ddod i adnabod teuluoedd eraill yn eu cymuned.  Nid oes strwythur na 'chynllun' ffurfiol ar gyfer unrhyw sesiwn llyfrgell deganau, ond yn hytrach y gwahoddiad penagored i chwarae, gyda'i gilydd, a chyda'r teganau yn y llyfrgell.  Ac os yw'ch plentyn yn hoff iawn o'r tegan y mae'n chwarae ag ef?  Wel gall fynd ag ef adref ar gyfer chwarae estynedig.  Mae’r syniad nad oes rhaid i ni ‘fod yn berchen’ ar rywbeth i’w fwynhau, yn wers bwysig i’w dysgu, a hynny i ni ein hunain ac i’n hamgylchedd.”

 

Dywedodd Leo Holmes, Pennaeth Polisi ac Eiriolaeth, Blynyddoedd Cynnar Cymru:

“Mae Llyfrgelloedd Teganau yn ffordd wych o fuddsoddi yn ein nodau cyfiawnder cymdeithasol yma yng Nghymru. O ddarparu cymorth i deuluoedd mewn angen i helpu eu plant i brofi holl fanteision chwarae, i fanteision amgylcheddol lleihau gwastraff, bydd rhwydwaith o Lyfrgelloedd Teganau ledled Cymru yn ased enfawr i gymunedau.”

 

Share this page