Dechrau llyfrgell deganau: ceffyl da yw ewyllys

Published: 21 May 2024

Picture of Maia Banks

Maia Banks, sylfaenydd Llyfrgell Deganau Honeycomb

Gall sefydlu unrhyw fenter o ddim fod yn brofiad brawychus. Ond os ydych chi, fel fi, yn teimlo awydd i greu rhywbeth yn eich cymuned, fel cyfle i chwarae, ac os ydych chi eisiau lleihau ein hôl troed amgylcheddol, efallai y byddai sefydlu llyfrgell deganau yn her werth chweil.
Parent and toddler session
Llun trwy garedigrwydd Llyfrgell Deganau Honeycomb

Darllenwch yn eich blaen i gael awgrymiadau ar gyfer sut i ddechrau llyfrgell o’r fath – efallai fod hyn yn rhywbeth y gallwch chi ei wneud. Yn ddi-os, bydd llyfrgelloedd teganau yn fwyfwy cyffredin yn y dyfodol, felly beth am wneud yn siŵr bod Cymru ar flaen y gad yn hyn o beth!

 

Y teganau

Child holding toy
Llun trwy garedigrwydd Llyfrgell Deganau Honeycomb

Yn gyntaf: y teganau. O ble ddylech chi eu cael? Faint ddylech chi ei wario? A ddylen nhw fod yn deganau newydd ynteu’n rhai hen? Mewn gwirionedd, does dim gwahaniaeth. Cyn belled â bod modd chwarae â’r teganau, fe fyddan nhw’n berffaith. Mae fy llyfrgell deganau i’n gymysgedd o deganau a gefais gan bobl eraill a theganau a brynais fy hun (rhai newydd a rhai o siopau elusennau).  Mae rhai wedi dechrau colli eu graen, mae rhai yn ddrud iawn ac mae rhai wedi costio pumpunt. Cyn belled nad ydyn nhw’n syrthio’n ddarnau neu’n anniogel, yn ddi-os fe fydd rhywun yn siŵr o’u mwynhau.

Dechreuodd fy llyfrgell fel chwaer-fenter i fy siop deganau (sydd bellach wedi cau), felly roedd llawer o’r teganau gwreiddiol yn tarddu o’r siop ei hun. Yn sicr, fe wnaeth hynny hwyluso’r dasg o ddod o hyd i lawer o deganau pan oeddwn i’n rhoi pethau ar waith, ond nid dyma’r unig ffordd o fynd ati o bell ffordd. Os ydych chi am brynu’r teganau, buaswn yn argymell eich bod yn chwilio am siopau teganau ‘indie’. Yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni, byddai siopau o’r fath yn gwerthfawrogi rhywfaint o fusnes, ac efallai y bydden nhw’n fodlon cynnig bargeinion a gostyngiadau os byddwch yn prynu llawer o deganau, yn yr un modd â siopau mawr. A HEFYD, mae siopa’n lleol mewn siopau bach o fudd i’ch cymuned.

Yn ôl yr ystadegau, mae yna lu o deganau heb neb yn chwarae â nhw; buan iawn y mae plant yn diflasu ar deganau drud yr oedd yn RHAID iddyn nhw eu cael bum munud yn ôl. Os ydych chi awydd sefydlu llyfrgell deganau ac os ydych chi angen prynu llawer o deganau, y ffordd gyflymaf o fynd ati yw creu tudalen ar y cyfryngau cymdeithasol yn sôn am eich ymdrech a gofyn i’ch cymuned gyfrannu teganau. Yn ddi-os, bydd aml i riant yn fwy na pharod i gael gwared â hen deganau y mae eu plant wedi diflasu arnyn nhw erbyn hyn.

Os ydych chi’n byw yn Ne Cymru, ffordd rwydd arall o ddod o hyd i lu o deganau am ddim yw trwy gysylltu â’r Prosiect Bocs Teganau (Toy Box Project). Lleolir y prosiect hwn ar gyrion Caerffili, ac mae’n casglu teganau ar hyd ac ar led gyda’r nod o’u rhoi i sefydliadau eraill (ysgolion, grwpiau chwarae ac ati). Amcan y prosiect yw sicrhau bod modd osgoi anfon teganau defnyddiadwy i safleoedd tirlenwi a’u bod, yn hytrach, yn cael eu rhoi i blant – amcan sy’n deilwng o glod, yn ddi-os. Ac rydym yn lwcus yng Nghymru bod y prosiect ar garreg ein drws.

 

Y lle

Parent and toddler session
Llun trwy garedigrwydd Llyfrgell Deganau Honeycomb

Agwedd bwysig arall ar lyfrgelloedd teganau yw ble y byddwch yn eu cynnal. Byddwch angen lle i storio eich teganau a lle i gynnal eich sesiynau benthyg a/neu chwarae. Ar y cychwyn, roeddwn i’n ddigon lwcus i fod â lle yn fy siop deganau, ac yna deuthum o hyd i ganolfan gymunedol leol a oedd yn fodlon cynnal y llyfrgell deganau ar ôl i’r siop gau. Dyma leoedd y gallwch eu hystyried ar gyfer cynnal llyfrgelloedd teganau:

  • canolfannau cymunedol
  • llyfrgelloedd llyfrau a gaiff eu rhedeg gan y cyngor
  • neuaddau eglwysi
  • ysgolion a meithrinfeydd
  • canolfannau gofal dydd preifat
  • canolfannau hamdden
  • busnesau lleol 

Y peth hollbwysig wrth chwilio am y lle iawn ar gyfer llyfrgell deganau yw dod o hyd i le sy’n hwylus i’r defnyddwyr ac sydd, efallai, yn rhan ganolog o’r gymuned leol eisoes. Nod llyfrgelloedd teganau yw ceisio osgoi anfon teganau i safleoedd tirlenwi, yn ogystal â sicrhau bod chwarae yn fwy hygyrch a chroesawgar; mynd ati o ddifrif i greu cysylltiadau ymhlith teuluoedd. Mae mentro i’r maes yn gallu bod yn anodd ar brydiau; ond heb ichi roi cynnig arni, bydd yn amhosibl cyflawni unrhyw beth. Felly, gofynnwch i’ch llyfrgell leol a fyddai ganddi ddiddordeb mewn cynnal llyfrgell deganau. Ewch i’ch cymuned leol i weld a oes lle addas ar gael yno. Cysylltwch ag ysgol eich plentyn i weld a fyddai modd defnyddio’r neuadd ar ôl ysgol. Mae’r posibiliadau’n ddiddiwedd pan fyddwch yn creu rhywbeth ar eich pen eich hun. Byddwch yn greadigol a gweithiwch yn galed. Bydd yr holl ymdrech yn siŵr o dalu ar ei chanfed yn y pen draw.

 

Group of adults and children
Llun trwy garedigrwydd Llyfrgell Deganau Honeycomb


Y logisteg

Dylai pob llyfrgell deganau fod ag yswiriant atebolrwydd cyhoeddus; ac fel arfer da, dylid cynnal archwiliadau DBS ar y staff neu’r gwirfoddolwyr, a dylid rhoi hyfforddiant cymorth cyntaf iddyn nhw. Gall fod braidd yn anodd gwybod sut i wneud hyn fel unigolyn neu gwmni preifat, felly unwaith eto, ceisiwch ganfod pa asiantaethau neu gyrff cyhoeddus a all eich helpu yn eich ardal.

Hefyd, bydd yn rhaid ichi roi trefn ar eich strwythur ffioedd, a sut rydych eisiau sefydlu eich sefydliad. Mae’r mwyafrif o lyfrgelloedd teganau yn codi ffi fach fesul tegan NEU danysgrifiad rheolaidd. Penderfynwch ymlaen llaw pa ffordd sy’n addas i chi. Y peth hollbwysig o ran cynnal llyfrgell deganau lwyddiannus yw codi cyn lleied â phosibl. Eich nod yw creu cymuned a sicrhau bod chwarae yn weithgaredd hygyrch yn hytrach na gwneud elw. Felly, meddyliwch pa swm sy’n rhesymol ar gyfer eich ardal. A chofiwch, does dim rhaid i’ch penderfyniadau fod yn barhaol. Gallwch wastad newid eich meddwl. Mae hyblygrwydd yn hollbwysig.

Bydd eich gorbenion yn weddol isel – cyflogau (os dewiswch gael staff cyflogedig), yswiriant a rhent, mae’n debyg. Felly, meddyliwch a ydych chi eisiau i’ch defnyddwyr dalu’r bil hwn, ynteu a fyddwch yn gwneud cais am grantiau. Os ydych chi am ddibynnu ar arian grant, yna bydd angen ichi ffurfio Cwmni Buddiannau Cymunedol neu sefydliad elusennol. Dyma broses braidd yn ddiflas, ond bydd modd i’r mwyafrif o bobl fynd i’r afael â hi. Gwnewch yn siŵr eich bod ar wefan Tŷ’r Cwmnïau ac ystyriwch gofrestru fel Cwmni Buddiannau Cymunedol neu elusen.

 

Ac i ffwrdd â chi

Ar ôl ystyried y teganau, y lle a logisteg yr arian a’r yswiriant… byddwch yn barod i fynd amdani. Mae rhedeg llyfrgell deganau yn brofiad gwerth chweil. Rydych yn creu rhywle pwysig lle gall y gymuned chwarae, ond hefyd rydych yn sicrhau bod y teganau’n cael eu rhoi yn nwylo plant yn hytrach nag mewn safleoedd tirlenwi. Gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn mynd ati i gefnogi arloeswyr brwd ein llyfrgelloedd teganau. Ac os ydych chi’n darllen yr erthygl hon, gobeithio y penderfynwch ymuno â ni ar y siwrnai.

Ydych chi eisiau rhagor o lyfrgelloedd teganau?

 

LLOFNODWCH EIN DEISEB

Share this page