Mae elusennau yn annog y Prif Weinidog i gyflymu'r Ddeddf Aer Glân

Published: 16 Jun 2021

Mae Awyr Iach Cymru wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog Mark Drakeford a'r Gweinidogion newydd ar y Newid yn yr Hinsawdd, Julie James a Lee Waters, cyn Diwrnod Aer Glân, yn eu hannog i flaenoriaethu deddfwriaeth aer glân a chyflwyno targedau ansawdd aer uchelgeisiol.

Croesawodd y glymblaid elusennau a sefydliadau gyhoeddi'r Papur Gwyn ar Fil Aer Glân (Cymru) ym mis Ionawr, ond beirniadodd yr amserlen bresennol fel un 'llawer rhy araf’.

Yn ei araith gyntaf i'r Senedd, ac mewn cyfweliadau â'r cyfryngau yn fuan ar ôl yr etholiad, nododd Mark Drakeford ddeddfwriaeth aer glân fel maes y gallai pob un o'r pedair plaid yn y Senedd gydweithio arno.

Yn yr etholiad, ymrwymodd Llafur Cymru, y Ceidwadwyr Cymreig, Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, a Phlaid Cymru i gyd i alwad Awyr Cymru Iach i gyflawni Deddf Aer Glân. Fodd bynnag, mae galwad y glymblaid am ei chyflwyno o fewn y 100 diwrnod cyntaf bellach yn edrych yn annhebygol o ddigwydd.

O ganlyniad, mae Awyr Iach Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno map ar gyfer Bil Aer Glân (Cymru) a gosod dyddiad yn y flwyddyn seneddol gyntaf hon ar gyfer pryd y caiff ei chyflwyno i'r Senedd.

Dywedodd Joseph Carter, Cadeirydd Awyr Iach Cymru a Phennaeth Asthma UK a British Lung Foundation Cymru:

"Mae Llygredd Aer yn niweidio ein hysgyfaint yn ddifrifol ac mae'n peryglu ein hiechyd. Mae'r lladdwr distaw hwn yn yr awyr rydym yn ei anadlu ar y ffordd i'r gwaith, yr ysgol, ac wrth i ni fynd o gwmpas bywyd bob dydd – mewn lefelau sy'n llawer uwch na therfynau Sefydliad Iechyd y Byd.

"Mae llygredd aer hefyd yn ddrwg i'n planed. Mae'r cynnydd mewn allyriadau sy'n newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar natur a chymunedau yng Nghymru ledled y byd.

"Er mwyn achub bywydau, a diogelu ein hiechyd a'r amgylchedd, mae'n rhaid i ni sicrhau bod Deddf Aer Glân yn cael ei chynnwys yn y datganiad deddfwriaethol cyntaf. Dyna pam rydym wedi ysgrifennu at Mark Drakeford a'i Weinidogion, gan eu hannog i wneud yr union beth hwnnw.

"Os byddwn yn bwrw ymlaen ar y cyflymder presennol, gallai fod mor hwyr â 2024 cyn i unrhyw ddeddfwriaeth gael ei phasio a thymor arall cyn i'r rheoliadau ddod i rym."

Mae'r grŵp, sydd hefyd yn cynnwys Cyfeillion y Ddaear Cymru, Sustrans Cymru, Living Streets Cymru a Ramblers Cymru, yn cydlynu'r Grŵp Trawsbleidiol (CPG) ar gyfer Deddf Aer Glân.

 

Dywedodd Huw Irranca-Davies AS, Cadeirydd newydd y Grŵp Trawsbleidiol:

"Mae'n wych gweld cefnogaeth drawsbleidiol gref i gael y map ffyrdd cynnar hwnnw ar gyfer deddfwriaeth, yn enwedig gan fod y Papur Gwyn ar y ddeddfwriaeth Aer Glân eisoes wedi bod yn destun ymgynghoriad ac mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i fwrw ymlaen â hyn.

“Bydd gweithredu buan ar ddeddfwriaeth uchelgeisiol yn achub bywydau, yn creu cymunedau lleol iachach ac yn dod ag enillion amgylcheddol i'r genhedlaeth hon a chenedlaethau'r dyfodol. Bydd llywodraeth Cymru yn cael cefnogaeth gref ledled Cymru os yw'n nodi'r map ac amserlen gyflym ar gyfer newid."

Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae llygredd aer yn cyfrannu at rhwng 1000-1400 o farwolaethau'r flwyddyn yng Nghymru 5. Bydd Deddf Aer Glân gadarn i Gymru yn helpu i achub bywydau a diogelu cenedlaethau'r dyfodol. Gyda phapur gwyn ar hyn eisoes yn destun ymgynghoriad cyhoeddus, mae'r grŵp yn galw am weithredu buan ar ôl yr etholiad i wireddu'r ddeddfwriaeth newydd hon.

 

Ychwanegodd Derek Cummings, sydd â COPD ac sy'n Gadeirydd y grŵp cymorth 'Breathe Easy' yn Rhondda Cynon Taf:

"Mae llygredd aer gwir yn effeithio ar bobl fel fi, sy'n byw gyda chyflyrau difrifol yr ysgyfaint. Mae'n ei gwneud hi'n anoddach anadlu ac yn cyfyngu ar yr hyn y gallaf ei wneud yn fy mywyd o ddydd i ddydd. 

"Mae angen i Lywodraeth Cymru gynyddu eu hymdrechion i leihau llygredd aer a chadw pobl rhag datblygu cyflyrau mawr yn ddiweddarach mewn bywyd.

"Rhan allweddol o hyn fydd cyflwyno rheolau newydd ynghylch llosgi coed, sef un o'r ffynonellau llygredd mwyaf, a datblygu cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus gwell a gwyrddach."

Dysgwch fwy am Faniffesto 2021 Awyr Iach Cymru

 

Share this page