Mae Cymru’n taro’r drwm yn Yr Un Mawr
Published: 25 Apr 2023

Y penwythnos diwethaf, ymunodd cannoedd o filoedd o bobl â The Big One yn Llundain i brotestio yn erbyn yr argyfwng hinsawdd ac ecolegol.
Teithiodd cymunedau o bob rhan o Gymru, gan gynnwys aelodau o rwydwaith Cyfeillion y Ddaear Cymru ym Mangor, Caerdydd, Caerffili, Pontypridd, Rhuthun and Sir Benfro i wneud yn siŵr bod eu lleisiau’n cael eu clywed, gan ymuno â llawer o sefydliadau a grwpiau Cymreig fel Climate Cymru.
Roedd y brotest, a drefnwyd gan Extinction Rebellion a’i chefnogi gan Gyfeillion y Ddaear a llawer o sefydliadau eraill, yn galw am ddemocratiaeth dan arweiniad dinasyddion i ddod â’r oes tanwydd ffosil i ben a chymdeithas deg.
Isod mae rhai lluniau o'r diwrnod.
Bangor

Caerdydd

Caerffili

Pontypridd

Rhuthin
