Gwresogi

Published: 4 Feb 2022

Yn y DU, mae oddeutu 15% o’r nwyon hynny sy’n cynhesu’r blaned yn deillio o wresogi ein cartrefi.

Radiator with a cat on top

 

Nid bach o gwbl mo’r ôl troed carbon sy’n deillio o wresogi ein cartrefi. Bydd tŷ Fictoraidd nodweddiadol yng nghanol teras yn defnyddio oddeutu 12,000kWh o ynni i wresogi ei ystafelloedd a 2,500kWh i gynhesu dŵr poeth bob blwyddyn, er iddo gael ei inswleiddio’n dda a defnyddio boeler nwy modern. Bydd hyn yn cynhyrchu oddeutu 2.75 tunnell o nwyon tŷ gwydr – sef yr un ôl troed carbon â gyrru 11,770 milltir y flwyddyn mewn car arferol, neu hedfan yn ôl a blaen i Rufain 11 o weithiau.

Mae Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd wedi dweud y bydd angen i’r 29 miliwn o gartrefi a geir yn y DU ar hyn o bryd, ynghyd â phob adeilad masnachol a chyhoeddus, roi’r gorau i ddefnyddio boeleri tanwydd ffosil a throi at ddefnyddio ffynonellau gwresogi carbon isel.

Mae llywodraeth y DU wedi awgrymu y bydd yn rhaid defnyddio systemau gwresogi carbon isel ym mhob cartref newydd a adeiladir ar ôl 2025, yn hytrach na defnyddio boeleri nwy.

Felly, sut y bydd trigolion Cymru a gweddill y DU yn gwresogi eu cartrefi yn y dyfodol?

Os ydych chi’n meddwl tybed pa atebion sydd i’w cael ar gyfer ein cartrefi, cymerwch gipolwg ar flog diddorol Mike Childs, Pennaeth Gwyddoniaeth, Polisi ac Ymchwil yng Nghyfeillion y Ddaear, lle mae’n pwyso a mesur y manteision a’r anfanteision sy’n perthyn i lu o wahanol bethau, yn cynnwys gwresogyddion stôr, boeleri biomas a phympiau gwres.

 

Trydan y cartref a storio gwres 

Wrth i’r byd roi’r gorau i ddefnyddio tanwyddau ffosil a dechrau defnyddio mwy o ynni adnewyddadwy, fe fydd y gwaith o storio’r ynni hwn yn ein cartrefi neu yn ein gweithleoedd (storio ynni gwasgaredig) yn fwyfwy pwysig. 

Mae yna wahanol dechnolegau ar y farchnad ar hyn o bryd, neu wrthi’n cael eu datblygu, ond maen nhw’n eithaf drud. Mae gan yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni ganllawiau defnyddiol yn sôn am y technolegau a’r pethau y dylid eu hystyried.

Hefyd, mae gan GreenmatchNaked Solar a Which wybodaeth dda y gallech gael cipolwg arni os ydych chi’n ystyried yr opsiynau hyn.

Datblygiad newydd diddorol o ran atebion yn ymwneud â storio ynni yw technoleg o’r cerbyd i’r grid (V2G)

 

 

Pympiau gwres o’r aer

Mae pympiau gwres o’r aer (ASHPs) yn amsugno gwres o’r aer y tu allan er mwyn gwresogi eich cartref a chynhesu dŵr poeth. Fe allan nhw barhau i dynnu gwres hyd yn oed pan fo’r tymheredd mor isel â -15°C.

Mae gan rew, hyd yn oed, rywfaint o ynni gwres!

Mae yna ddau brif fath o bympiau gwres o’r aer, sef: pympiau aer-i-ddŵr a phympiau aer-i-wres.

Efallai y byddwch chi’n gymwys ar gyfer y Cymhelliad Gwres Adnewyddadwy (RHI), sef cynllun gan lywodraeth y DU sy’n rhoi taliadau i berchnogion tai sy’n cynhyrchu eu gwres eu hunain.

 

Pympiau gwres o’r ddaear

Mae pympiau gwres o’r ddaear (GSHPs) yn defnyddio pibellau a gaiff eu claddu yn yr ardd i dynnu gwres o’r ddaear. Ar ddyfnder o ryw 2 fetr, mae’r tymheredd yn gymharol gyson, sef oddeutu 11-12 gradd Celsius. Yna, gellir defnyddio’r gwres hwn i wresogi rheiddiaduron, systemau gwresogi tanddaearol a systemau gwresogi aer cynnes, ynghyd â chynhesu dŵr poeth yn eich cartref.

Mae yna ddwy system ddolen wahanolar gyfer pympiau gwres o’r ddaear – y system agored a’r system gaeedig.

Unwaith eto, efallai y byddan nhw’n gymwys ar gyfer y Cymhelliad Gwres Adnewyddadwy.

 

Systemau solar ar gyfer cynhesu dŵr

Mae systemau solar ar gyfer cynhesu dŵr (neu systemau thermol solar) yn defnyddio heulwen i gynhesu dŵr i’w ddefnyddio mewn cartrefi.

Hyd yn oed yng Nghymru, gall systemau o’r fath gyflenwi hyd at 50-60% o ofynion dŵr poeth cartref arferol, a bydd y ffigurau hyn yn codi i 80-90% yn ystod misoedd yr haf. Trwy wneud hyn, gall y systemau yma arbed arian ac allyriadau hinsawdd. Efallai hefyd y byddan nhw’n gymwys ar gyfer y Cymhelliad Gwres Adnewyddadwy

Yn ôl amcangyfrif Project Drawdown:

Pe bai systemau solar ar gyfer cynhesu dŵr poeth yn tyfu o 8 y cant o’r farchnad berthnasol yn 2018 i 15-30 y cant, byddai modd i’r dechnoleg arwain at arbed 3.6-14.3 gigatunnell o allyriadau carbon deuocsid.

 

Pethau y gallwch chi eu gwneud

Ynni

Amdani!

Share this page