Gosod paneli solar

Published: 4 Feb 2022

Mae paneli solar (a elwir hefyd yn baneli ffotofoltäig neu’n baneli PV), ynghyd â theils a llechi solar, yn defnyddio ynni’r haul ac yn ei droi’n drydan y gallwch ei ddefnyddio yn eich cartref a’i werthu’n ôl i’r grid cenedlaethol.

Picture of solar panels

Arferai llywodraeth y DU redeg cynllun o’r enw Tariff Cyflenwi Trydan, ond yn anffodus daeth y cynllun hwn i ben a bellach mae wedi cael ei ddisodli gan y Gwarant Allforio Deallus – mae’r cynllun hwn yn rhoi tâl i ddeiliaid tai sy’n berchen ar baneli solar am ‘allforio’ trydan i’r grid.

Yn ôl amcangyfrif Project Drawdown, gyda rhagor o dwf fe allai ynni solar o’r fath ‘osgoi oddeutu 27-69 gigatunnell o allyriadau nwyon tŷ gwydr.’

Os ydych chi’n ystyried cael paneli solar, yna mae’r Ymddiriedolaeth Arbed Ynni yn fan cychwyn gwych i gael gwybodaeth.

Cymerwch gipolwg ar y Cyfeiriadur Busnesau Gwyrdd, sef rhestr o gyflenwyr a gosodwyr ynni adnewyddadwy a mesurau arbed ynni a achredir gan yr Ymddiriedolaeth Garbon.

Edrychwch hefyd ar wefannau WhichMoney Saving ExpertGreenmatchSolarguide a Green Business Watch.

Pethau y gallwch chi eu gwneud

Ynni

Amdani!

Share this page