Gadewch i ni gyd gefnogi'r strategaeth drafnidiaeth ddrafft!

Published: 22 Jan 2021

Llun o Ian Taylor

Gan Dr Ian Taylor
Cyfarwyddwr, Trafnidiaeth er Bywyd o Safon

Mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar ei strategaeth drafnidiaeth newydd. Yma, mae Dr Ian Taylor yn esbonio pam mai dyma’r gobaith gorau ar gyfer system drafnidiaeth sy'n decach ar bobl a'r blaned.

Awdur Polisi Trafnidiaeth Cymru addas i’r Argyfwng gyda Lynn Sloman

Nid bob dydd y mae llywodraeth yn dweud y bydd mynd i'r afael â'r Argyfwng Hinsawdd yn ganolog i'w pholisi trafnidiaeth.

Ond dyna mae Llywodraeth Cymru bellach yn ei wneud yn Llwbyr Newydd: Strategaeth Drafnidiaeth Cymru newydd, a gyhoeddwyd ar gyfer ymgynghori.

 

'Sector Drwg-enwog yr economi'

Mae hyn yn enfawr. Mae trafnidiaeth wedi cael ei galw yn 'sector ddrwg-enwog yr economi' oherwydd bod ei hallyriadau wedi aros yr un fath neu hyd yn oed wedi cynyddu tra bod sectorau eraill wedi lleihau eu hallyriadau. Mae'n mynnu cyfran fwy fyth o gyllidebau carbon tra bod sectorau eraill o'r economi yn llwyddo i leihau eu hallyriadau.

Os gall Llywodraeth Cymru ddilyn ei bwriad i wneud penderfyniadau polisi trafnidiaeth yn ôl a ydynt yn helpu'r hinsawdd i wella, yn hytrach na'i gwneud yn waeth, bydd ein polisïau trafnidiaeth yn edrych yn wahanol iawn.

 

‘Buddsoddiad enfawr’

Y blaenoriaethau ar gyfer buddsoddi mewn trafnidiaeth i fynd i'r afael â'r Argyfwng Hinsawdd fyddai buddsoddiad enfawr mewn trafnidiaeth gyhoeddus ac mewn 'teithio llesol' drwy gerdded a beicio, bydd y ddau beth hefyd yn helpu i ddatrys ein hargyfwng iechyd gordewdra a'n hargyfwng llygredd aer gwenwynig.

Ac ie, mae trafnidiaeth gyhoeddus yn parhau i fod yn rhan hanfodol o system drafnidiaeth sy'n ystyriol o'r hinsawdd, er bod Covid yn amharu ar ei ddefnyddioldeb dros dro. I'r gwrthwyneb, byddai gwariant ar adeiladu ffyrdd yn stopio.

Byddai cymorth ariannol i osgoi teithio'n gyfan gwbl drwy weithio o bell yn cael ei gynyddu, gan greu rhwydweithiau o ganolfannau gweithio cyflym iawn ym mhob cymuned i ddarparu ar gyfer y rhai y mae eu hamgylchedd cartref yn anaddas ar gyfer gwaith. Mae Llywodraeth Cymru, i'w ganmol, eisoes wedi cyhoeddi targed ar wahân i gael 30% o bobl i weithio o bell.

 

‘Addas ar gyfer yr argyfwng hinsawdd’

Drafft ymgynghori yn unig yw'r strategaeth ddrafft hon, sy'n dal yn amwys ac yn amherffaith mewn sawl ffordd, ac yn agored i newid. Gallai newid er gwaeth os yw'r rheiny sydd â buddiant personol ac sydd o blaid y sefyllfa bresennol yn cael eu ffordd, neu gallai gadw ei huchelgais clodwiw, neu hyd yn oed gael ei gwella os byddwn i gyd yn ei chefnogi. Mae un peth yn sicr, os na fyddwn yn egnïol ac yn cefnogi hyn, byddwn yn colli cyfle unwaith mewn oes i gyflawni system drafnidiaeth sy'n addas ar gyfer yr Argyfwng Hinsawdd.

Yn y flwyddyn 2000, collodd y mudiad amgylcheddol frwydr allweddol yn erbyn y protestiadau ynghylch codiadau arfaethedig mewn prisiau tanwydd. Rwy'n dal i deimlo'r creithiau, gan fy mod yn gweithio yn nhîm hinsawdd Greenpeace y DU ar y pryd.

O ganlyniad, mae tanwyddau ffosil ar gyfer cerbydau wedi mynd yn rhatach mewn termau real byth ers hynny, gan golli dau ddegawd hollbwysig inni yn y rhyfel yn erbyn newid yn yr hinsawdd. Felly mae'n rhaid i ni gefnogi strategaeth drafnidiaeth sydd â'r argyfwng hinsawdd yn flaenoriaeth.

 

'Trobwynt'

Dangosodd Mark Drakeford ei ddewrder pan ddaeth i rym am y tro cyntaf a chanslo'r cynlluniau anamddiffynadwy i adeiladu mwy o'r M4, a fyddai wedi gwthio allyriadau carbon traffig i fyny ar yr adeg y mae'n rhaid i ni eu lleihau, ac ar yr un pryd sathru ecoleg werthfawr Gwastadeddau Gwent. Yn Strategaeth Drafnidiaeth ddrafft Cymru, mae Llywodraeth Cymru’n dweud “Byddwn yn cefnogi symud o dreth tanwydd i ddull mwy teg o daliadau ffyrdd teg fydd yn medru cynorthwyo gyda gwelliannau mewn ansawdd aer a thagfeydd mewn ardaloedd trefol, wrth gydnabod fod rhai pobl, gan gynnwys y rhai sydd mewn ardaloedd gwledig, yn dibynnu ar ddefnyddio ceir”. Mae hon yn drobwynt.

Rydym i gyd yn gwybod bod cost moduro'n dylanwadu'n gryf ar y nifer sy'n manteisio ar drafnidiaeth gyhoeddus well a gwell seilwaith beicio. Ond ni fydd hyn yn rhan o Strategaeth Drafnidiaeth derfynol Cymru oni bai bod digon o bobl yn ymateb i'r ymgynghoriad hwn i ddweud eu bod yn cefnogi'r syniad o godi tâl ar ddefnyddwyr ffyrdd. Mae'n hanfodol ein bod i gyd yn ei chefnogi.

Wrth gwrs, mae hefyd yn bwysig gwneud trafnidiaeth gyhoeddus yn fwy fforddiadwy – yn ogystal â bod mwy ar gael. Yn wir, rydym ni yn Trafnidiaeth er Bywyd o Safon yn credu y dylid darparu rhywfaint neu'r cyfan ohono am ddim, fel sy'n digwydd nawr mewn dros 100 o ddinasoedd ledled y byd, fel rhan o gynnig bargen deg i ddefnyddwyr ceir yn gyfnewid am godi tâl ar ddefnyddwyr ffyrdd.

 

Ymateb nawr

Er bod ei dwylo wedi'u clymu gan bwerau datganoledig cyfyngedig, mae strategaeth drafnidiaeth ddrafft Llywodraeth Cymru yn rhoi gobaith i ni am system drafnidiaeth sy'n decach ar bobl a'r blaned, sy'n cynnwys hadau polisïau trafnidiaeth sy'n arwain y byd. Byddai'r rhain yn adeiladu ar draddodiad newydd balch Cymru o sefydlu gweledigaeth gymdeithasol ac amgylcheddol gynaliadwy yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.

Gall Cymru ei wneud eto, ac eto bod yn esiampl o safon fyd-eang. Gadewch i ni gyd gefnogi Strategaeth Drafnidiaeth ddrafft Cymru!

Mae'r ymgynghoriad yn rhedeg tan 25 Ionawr. I ymateb ar-lein, ewch i https://llyw.cymru/llwybr-newydd

Share this page