Etholiadau'r Senedd 2021 - sut mae'r maniffestos yn cymharu?

Published: 30 Apr 2021

Yma, edrychwn ar faniffestos y prif bleidiau gwleidyddol. Sut mae'r maniffestos yn cymharu o ran polisïau ac ymrwymiadau amgylcheddol?

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Gan Haf Elgar

Cyfarwyddwr, Cyfeillion y Ddaear Cymru

Mae Etholiadau'r Senedd yn prysur agosáu.

Dylai hwn wedi bod yn etholiad hinsawdd, gyda'r argyfwng hinsawdd yn cael blaenoriaeth yn y flwyddyn y daw COP26 i Glasgow. Mae gwledydd ledled y byd yn canolbwyntio ar wneud ymrwymiadau hinsawdd. Serch hynny, yng Nghymru, fel gweddill y byd, y pandemig a'r argyfwng iechyd y cyhoedd sy'n dal i fod yn ffocws y gwleidyddion, gan symud yr argyfwng hinsawdd a natur i lawr yr agenda.

Yn y blog hwn, byddwn yn edrych ar faniffestos y prif bleidiau gwleidyddol: Plaid Cymru, y Ceidwadwyr Cymreig, Plaid Werdd Cymru, Llafur Cymru, a Democratiaid Rhyddfrydol Cymru.

Sut mae'r maniffestos yn cymharu o ran polisïau ac ymrwymiadau amgylcheddol? Ar ôl ystyried yr hyn sydd ganddynt yn gyffredin, byddwn yn archwilio eu gwahaniaethau.

 

Themâu cyffredin

Buddsoddi yn yr economi werdd

'Swyddi gwyrdd' yw'r thema gyffredin fwyaf amlwg yn y pum maniffesto. Mae pob plaid yn ymroddedig i sicrhau adferiad gwyrdd drwy fuddsoddi yn yr economi werdd. Byddai nifer o'r swyddi newydd hyn yn dod o ymestyn y sector ynni adnewyddadwy. Mae'r ffigyrau yn amrywio o 15,000 o swyddi gwyrdd newydd ym maniffesto'r Ceidwadwyr Cymreig i 60,000 o swyddi yn ôl addewid Plaid Cymru. Rhoddir sylw helaeth i gynlluniau buddsoddi, o gynllun buddsoddi 10 mlynedd Llafur Cymru am economi ddi-garbon, Cronfa Trawsnewidiad Gwyrdd Plaid Werdd Cymru i Fargen Newydd Werdd Plaid Cymru ac ysgogiad economaidd o £6bn.

Mynd i'r afael â gwastraff 

Mae edefyn cyffredin mewn perthynas â gwastraff a phlastigau hefyd, gyda phob plaid yn ymrwymo i wahardd plastigau un defnydd a chyflwyno cynllun dychwelyd blaendal, yn ogystal â datblygu cyfleusterau ailddefnyddio ac atgyweirio wrth i ni symud tuag at fod yn ddi-wastraff. Gwych yw gweld eu bod i gyd wedi deall y neges, sef bod rhaid i ni fynd y tu hwnt i dargedau ailgylchu a dechrau cael gwared ar gynhyrchion un defnydd, gyda'r diolch am hyn yn rhannol i waith ymgyrchu gwych grwpiau cymunedol dros drefi di-blastig.

Glanhau ein haer

Ac rydym yn croesawu cefnogaeth ar draws y pleidiau am Ddeddf Aer Glân hefyd, felly dylai fod gweithredu ddeddfwriaethol gadarn ynghylch llygredd aer, a gafodd prin sylw yng Nghymru yn etholiadau'r Senedd diwethaf.

Mae hyn yn argoeli'n dda am ddeddf yn cael ei chyflwyno'n gynnar yn nhymor nesaf y Senedd.

Teithio cynaliadwy

Yn gyffredinol, mae symudiad tuag at deithio mwy cynaliadwy. Ac eithrio'r Ceidwadwyr Cymreig, nid oes mwyach addewidion i adeiladu ffyrdd, yn hytrach mae'r hierarchaeth teithio newydd sy'n rhoi blaenoriaeth i deithio llesol. Mae gwella trafnidiaeth gyhoeddus integredig, a'r angen i leihau'r teithiau mewn car wedi taro deuddeg. Ymhlith yr ymrwymiadau mae Llafur Cymru yn creu sail ddeddfwriaethol fodern ar gyfer trafnidiaeth yng Nghymru a chreu Cymru yn genedl teithio llesol, Plaid Cymru yn cyflwyno Cynllun Teithio Llesol yn cynnwys llwybrau beicio hirach a defnyddio pwerau ariannol ac eraill i leihau'r defnydd o geir, a Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn addo Bil Bysiau i fodloni anghenion cymunedau lleol.

Sylweddolir y bydd gweithio gartref yn dod yn fwy cyffredin, ac y bydd cymudo dyddiol yn nodwedd lai ym mywydau pobl. Mae pawb, ac eithrio'r Ceidwadwyr Cymreig, yn ymrwymo i weithredu argymhellion y Comisiwn Burns ac yn barod i symud ymlaen o'r ffordd osgoi M4 a gafodd ei gwrthod. Yn anffodus, mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn canolbwyntio ar brosiectau adeiladu ffyrdd mawr sy'n tanseilio cynigion eraill mwy cadarnhaol. Ac mae Plaid Cymru yn ymrwymo i gynnal y llwybr hedfan rhwng y gogledd a'r de ar adeg pan mae angen i ni leihau teithiau awyr.

Mannau gwyrdd a natur

Effaith amlwg arall o'r flwyddyn ddiwethaf a'r cyfnodau clo yw rhagor o bwyslais ar fannau gwyrdd a natur, yn enwedig mynediad at natur. Yn aml, caiff hyn ei gyfuno â chreu cymunedau brafiach i fyw ynddynt, gyda ffyrdd yn cael eu trosi'n llwybrau cerdded a beicio, yr holl wasanaethau yn agos i'r cartref a'r cysyniad o gymdogaethau 20 munud, fel y cefnogir gan Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru a Plaid Cymru. Â Plaid ymhellach a chynnig man gwyrdd o fewn 5 munud o gartref pawb, sy'n adlewyrchu'r mynediad anghyfartal a brofwyd gan rai cymunedau yn ystod y cyfnod clo.

 

Gwahaniaethau allweddol

Er gwaetha'r tebygrwydd hwn, mae gwahaniaethau sylweddol.

Targedau sero net

Yn gyntaf, mae rhai pleidiau gwleidyddol yn rhoi mwy o flaenoriaeth nag eraill i'r argyfwng hinsawdd, a chaiff hyn ei adlewyrchu yn y gweithredu dros yr hinsawdd y maent yn fodlon ymgymryd â hi a'u targedau sero net.

Mae Llafur Cymru, y Ceidwadwyr Cymreig a Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn cefnogi'r targed sero net erbyn 2050, ond gan fod hwn bellach yn neddfwriaeth Cymru, prin y gellir ei ystyried yn ymrwymiad newydd.

Rhodda Plaid Cymru genhadaeth i Gymru gyflawni sero net erbyn 2035, cyn belled ag y bydd ganddi'r holl bwerau i gyflawni hynny. A dyweda Plaid Werdd Cymru y bydd yn cyflawni gweledigaeth ar gyfer sero net erbyn 2030. Y tu hwnt i'r maniffestos hyn, rydym yn dal i fod angen cynlluniau cynhwysfawr i weithredu dros yr hinsawdd a fyddai'n cyflawni'r ymrwymiadau hyn.

Lefel manylion

Gwahaniaeth mawr arall yw'r lefel o fanylion a roddir. Er bod Plaid Werdd Cymru yn creu gweledigaeth gadarnhaol o ddyfodol mwy gwyrdd i Gymru ac yn sylweddoli argyfwng y newid sydd ei angen i'w gyflawni, mae'n brin ar fanylion a chynigion pendant. Ac ar y cyfan mae gan faniffesto Llafur Cymru lai o fanylion ynghylch sut fyddant yn cyflawni a mwy o addewidion cyffredinol.

Mae gan Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru, er nad yw'n faniffesto hirfaith, amrywiaeth o gynigion deddfwriaethol, a pheth fanylion o ran egwyddorion a thargedau. Mae'r Ceidwadwyr Cymreig hefyd yn mynd i ragor o fanylion gyda chostiadau ac ystadegau. Ac mae maniffesto Plaid Cymru yn rhaglen lawn o lywodraeth am 5 mlynedd a thu hwnt!

Mesur newid economaidd

Yn drydydd, er y gefnogaeth unfrydol am swyddi gwyrdd a'r economi werdd, mae gwahaniaethau o ran pa mor sylfaenol dylai newid economaidd fod, a sut ellir ei fesur.  Mae Plaid Werdd Cymru yn ymrwymo i economi llesiant go iawn, gyda llwyddiant yn cael ei fesur yn ôl nodau llesiant yn hytrach na chael ei leihau i CGC ac yn cefnogi cyllidebu economi llesiant yn yr un modd â Seland Newydd. Mae Llafur Cymru yn hyrwyddo economi gynaliadwy leol, ac economi decach, fwy gwyrdd yn seiliedig ar werthoedd cydweithredu, ond nid oes sôn sut fyddai hon yn cael ei mesur.  Ac er bod ffocws cryf ar ddatblygiad economaidd ym maniffesto Plaid Cymru, mae'n trafod dull gweithredu newydd, gan gamu i ffwrdd o CDG a gosod fframwaith perfformiad cenedlaethol newydd i'r sector gyhoeddus yn seiliedig ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.

Effaith fyd-eang

Yn olaf, go ryfedd yw nad oes un o'r maniffestos yn rhoi mwy o sylw i'n heffaith fyd-eang ar yr hinsawdd, a'r hyn yr ydym yn ei fewnforio ac yn buddsoddi ynddo, o ystyried bod 'Cymru sy'n gyfrifol yn fyd-eang' yn un o saith nod llesiant Cymru. Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Plaid Cymru a Plaid Werdd Cymru oll yn crybwyll pensiynau awdurdodau lleol yn dadfuddsoddi mewn tanwyddau ffosil. Ac mewn perthynas â datgoedwigo, mae Llafur Cymru yn ymrwymo i adeiladu gyda deunyddiau sydd â lefelau isel o garbon wedi'i ymgorffori ynddyn a datblygu strategaeth bren i Gymru, a byddai Plaid Cymru yn gwneud Cymru yn genedl heb ddatgoedwigo. Ond fel arall, ymddengys mai prin iawn yw ymwybyddiaeth o'n hôl-troed byd-eang, heb sôn am ymrwymiadau ynghylch sut allwn gymryd cyfrifoldeb.

 

I grynhoi

Fel y gwelwn, mae'r hinsawdd yn amlwg yn agendâu a blaenoriaethau'r prif bleidiau i gyd. Da yw gweld bod llawer mwy o gydnabyddiaeth, gweithrediad ac ymrwymiad nag y gwelsom yn yr etholiadau diwethaf neu rai blynyddoedd yn ôl hyd yn oed. Mae pawb yn ystyried yr adferiad wedi COVID-19 yn gyfle i ddatgarboneiddio a datblygu'n fwy gwyrdd.

Mae'r pum prif blaid wleidyddol yn ymroddedig i fuddsoddi yn yr economi werdd, i gyflwyno Deddf Aer Glân i Gymru, a gweithredu ar wastraff a phlastigau.

Mae'r rhan fwyaf o'r pleidiau yn pwysleisio argyfwng a graddfa'r broblem ac yn cyfeirio ati fel 'argyfwng hinsawdd'. Dywed Democratiaid Rhyddfrydol Cymru bod y cloc yn tician ar ddyfodol ein planed, ac y byddant yn rhoi'r hinsawdd a'n planed wrth galon eu hagenda, a noda Plaid Werdd Cymru bod yr argyfwng hinsawdd a natur wedi dod hyd yn oed yn fwy pwysig dros y flwyddyn ddiwethaf.

Mae'r iaith hon leiaf amlwg ym maniffesto'r Ceidwadwyr Cymreig, gyda'u ffocws ar yr economi, ond caiff gweithredu dros yr hinsawdd a sawl polisi amgylcheddol eu cynnwys.

Ond mae gwahaniaethau sylweddol. Yn wahanol i bleidiau eraill, mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn addo caniatáu prosiectau adeiladu ffyrdd ar raddfa fawr, fel ffordd osgoi'r M4, a fyddai'n tanseilio eu hymdrechion i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd.

Mae gan Plaid Cymru a Plaid Werdd Cymru dargedau sero net mwy uchelgeisiol na'r tair arall. Ac mae rhai pleidiau yn well am gefnogi eu cynlluniau gyda manylion nag eraill, a Llafur Cymru yw'r lleiaf manwl.

Yn olaf, mae rhai meysydd y mae eu habsenoldeb yn amlwg, megis ein heffaith fyd-eang a'r hyn yr ydym yn ei fewnforio a buddsoddi ynddynt.

Felly, i grynhoi, gan Blaid Cymru mae’r addewidion mwyaf uchelgeisiol, tra fod Plaid Werdd Cymru a Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn rhoi’r amlygrwydd mwyaf i’r argyfwng hinsawdd, yn ogystal a pholisïau uchelgeisiol. Mae Llafur Cymru gam tu ôl oherwydd diffyg manylder a chynigion mwy cymedrol. Ac ar ei hôl hi mae’r Ceidwadwyr Cymreig. Yn anffodus, fe fyddai eu ysfa i adeiladu rhagor o heolydd yn tanseilio eu polisïau ac ymrwymiadau amgylcheddol positif.

Pwy bynnag sy'n cael ei ethol i'r Senedd nesaf ac yn ffurfio Llywodraeth nesaf Cymru, bydd angen i ni sicrhau bod cynllun gweithredu hinsawdd sy'n ddigon uchelgeisiol, yn mynd i'r afael â'r bylchau yn y maniffestos, ac, yn fwyaf pwysig, yn troi'r geiriau yn weithredu angenrheidiol. 

 

 

 

Share this page