Drysau oergelloedd mewn archfarchnadoedd

Published: 4 Feb 2022

Mae oergelloedd mewn archfarchnadoedd yn defnyddio oddeutu 1% o holl allbwn trydan y DU!

Picture of man opening a supermarket fridge door

 

 

Mae oergelloedd mewn archfarchnadoedd yn defnyddio oddeutu 1% o holl allbwn trydan y DU! Dyma swm anferth, a chaiff cyfran enfawr o’r ynni hwn (oddeutu 30-60%) ei ddefnyddio wrth oeri a rhewi bwydydd.

Gellid arbed rhan helaeth (40%) o’r ynni hwn trwy wneud peth mor syml â rhoi drysau ar oergelloedd. Rydym wedi bod yn ymwybodol o’r mater hwn ers mwy na degawd bellach, felly rhaid gofyn pam aflwydd mae hi’n cymryd cymaint o amser i osod drysau ar oergelloedd? Dyma un o’r pethau rhwyddaf y gallwn ni ei wneud i leihau allyriadau hinsawdd.

Yn ôl y siopau, maen nhw’n anfodlon gwneud hyn rhag ofn y bydd eu cwsmeriaid yn drwglecio agor a chau drysau.

A wnewch chi neilltuo munud neu ddau i ysgrifennu at bob archfarchnad i ddweud nad yw hyn yn wir a bod angen iddyn nhw fynd i’r afael â’r sefyllfa cyn gynted â phosibl!

Bydd y fideo hwn yn helpu i esbonio pethau. 

 

Pethau y gallwch chi eu gwneud

Ynni

Amdani!

Share this page