Dim mwy o lo - o Sir Gaerfyrddin nac unrhyw le arall
Published: 14 Jan 2020
Ydych chi'n byw yn Sir Gaerfyrddin? Helpwch ni i roi'r gorau i gynllun i ymestyn safle glo brig Glan Lash. Dwedwch wrth y Cyngor Sir Gar i gadw glo brwnt yn y tir – cymerwch ein gweithred ar-lein nawr http://bit.ly/stopiwchglanlash
Mae Cyfeillion y Ddaear wedi cyflwyno gwrthwynebiad i'r cynnig i gloddio 110,000 tunnell ychwanegol o lo o gloddfa frig Glan Lash, Llandybie ger Rhydaman, ac yn galw ar Gyngor Sir Gâr i wrthod y cynnig a pharhau â chynlluniau ar gyfer creu dyfodol sero-net gadarnhaol yn yr ardal.
Wrth ymateb i'r cynnig, dywedodd Haf Elgar, Cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru:
"Mae'n anhygoel bod cynlluniau wedi eu cyflwyno i gloddio mwy o lo yng Nghaerfyrddin, o ystyried yr argyfwng hinsawdd rydym yn ei wynebu. Er na ddefnyddir llawer o'r glô ar gyfer tanwydd, yn ôl honiadau, bydd degau o filoedd o dunelli o lo yn cael eu llosgi - mae hynny'n ddegau o filoedd yn ormod. Mae'n rhaid i Gyngor Sir Gâr wneud y peth iawn a gwrthod y cynigion hyn yn llwyr.
"Mae Polisi Cynllunio Cymru, a gyhoeddwyd dros flwyddyn yn ôl, yn nodi'n glir bod angen gwrthod y cynigion ar gyfer mwyngloddio brig.
"Byddai cymeradwyo'r cynigion ar gyfer pwll glo Glan Lash yn gwbl anghydnaws â nod Cymru i ddod yn sero-net a datganiad argyfwng hinsawdd Cyngor Sir Gâr.
"Bydd y cynigion hyn ar gyfer mwyngloddio brig yn arwain at allyriadau niweidiol i'r hinsawdd ac yn bygwth bywyd gwyllt yr ardal, gan ddinistrio coed a chynefinoedd. Bydd hefyd yn creu llygredd llwch a sŵn i breswylwyr lleol.
"Does dim amheuaeth o gwbl ein bod ni mewn argyfwng hinsawdd ac ecolegol - mae'r tanau yn Awstralia a'r llifogydd yn Indonesia ar hyn o bryd yn rhai enghreifftiau o effeithiau torcalonnus newid hinsawdd a thywydd eithafol. Ni allwn fforddio i gloddio mwy o lo o'n tir - yng Nghymru nac unrhyw le arall.
"Mae oes y glo wedi dod i ben. Mae yna ddigon o opsiynau ynni adnewyddadwy eraill ar gael, yn cynnwys ynni cymunedol all ddod â chyflogaeth i gymunedau lleol ledled Cymru yn ogystal â ffynhonnell ynni glân.