Defnyddio goleuadau LED
Published: 4 Feb 2022
Defnyddio goleuadau LED yw un o’r pethau rhwyddaf y gallwn ni ei wneud. Maen nhw’n defnyddio oddeutu 90% yn llai o ynni na goleuadau halogen arferol, maen nhw’n arbed arian ac maen nhw’n para’n hir.
Mae’r Climate Group yn amcangyfrif bod ‘goleuadau’n gyfrifol am bron i 5% o allyriadau CO2 y byd. Pe bai’r byd yn troi at ddefnyddio technoleg Deuodau Allyrru Golau (LED), gellid arbed mwy na 1,400 miliwn tunnell o CO2 ac osgoi adeiladu 1,250 o orsafoedd ynni.’
Yn ôl amcangyfrif Project Drawdown:
‘Wrth i oleuadau LED ddisodli goleuadau llai effeithlon, gellir osgoi 10.2-10.8 gigatunnell o allyriadau carbon deuocsid mewn cartrefi a 5.9-6.7 gigatunnell mewn adeiladau masnachol.’