Dau grŵp Cyfeillion y Ddaear Cymru yn ennill gwobr
Published: 15 Sep 2021
Mae Torfaen, un o’r grwpiau Cyfeillion y Ddaear hynaf yng Nghymru, yn ennill gwobr genedlaethol am ymgyrchu’n llwyddiannus ar amrywiaeth byd o faterion dros y deng mlynedd ar hugain diwethaf
Cyfeillion y Ddaear Rhuthun yn ennill yr wobr am gael effaith gadarnhaol a phellgyrhaeddol ar y gymuned, a hynny mewn amser byr
Cyfeillion y Ddaear sydd yn gyfrifol am drefnu Gwobrau Earthmovers a chwaraewyr Loteri Cod Post y Bobl sydd yn eu cefnogi. Mae’r gwobrau yn cydnabod gwaith ysbrydoledig grwpiau amgylcheddol lleol yn eu cymunedau
Torfaen
Daeth Cyfeillion y Ddaear Torfaen i fod yn 1996 ar ffurf grŵp ‘Ymladd y Cynllun’ (‘Fight the Plan)’ i atal codi stad anferthol o dai newydd ar gaeau gwyrdd yn Ne Sebastopol ger Pont-y-pŵl. Yn 2001, daeth yn grŵp Cyfeillion y Ddaear dan arweiniad Mike Jacob, diweddar ŵr Carole, y cydlynydd presennol.
Mae’n un o’r grwpiau Cyfeillion y Ddaear hynaf yng Nghymru a bellach wedi ennill Gwobr Earthmovers Loteri Cod Post y Bobl, a hynny am weithredu amgylcheddol. Mae’r wobr yn cydnabod ymgyrchoedd ysbrydoledig y grŵp dros amrywiaeth byd o faterion dros y chwarter canrif diwethaf.
Bu’r grŵp yn gwrthwynebu datblygiad De Sebastopol am ugain mlynedd, yn arwain ar faterion cyfiawnder amgylcheddol, ymgyrchoedd aer glân a Caru Gwenyn, ac yn codi a chefnogi llawer o ddeisebau dros y blynyddoedd gan gynnwys dwy ar gyfer De Sebastopol ac un ddeiseb leol ar gyfer gwahardd defnyddio glyffosad.
Ers blynyddoedd bellach, bu’r grŵp yn chwarae rhan weithredol yn ei gymuned leol. Er enghraifft, mae’r grŵp wedi cael stondinau mewn nifer o ddigwyddiadau cymunedol, wedi trefnu ei ddigwyddiadau ffilm ei hun ar amryw o destunau fel gwenyn, plaladdwyr a gwaredu, ac wedi gweithio gyda thîm rheoli ansawdd aer Cyngor Torfaen i fonitro llygredd aer yn lleol. Bu’r grŵp hefyd yn ymweld ag ysgolion i helpu plant ddysgu am wenyn. Ar hyn o bryd, mae aelodau’r grŵp yn rhanddeiliaid mewn ymgynghoriad ar Gynllun Datblygu Lleol newydd am 2021 ac ystyrir eu bod yn arbenigwyr lleol ar faterion cynllunio, yn helpu trigolion, ac yn siarad ar eu rhan mewn cyfarfodydd cynllunio.
Yn y gorffennol, bu Cyfeillion y Ddaear Torfaen hefyd yn ymgyrchu’n llwyddiannus yn erbyn ffracio ac yn allweddol wrth gael Cyngor Torfaen i bleidleisio i fod yn ardal dim ffracio, ochr yn ochr ag actifyddion a thrigolion eraill. Ymgyrchodd y grŵp hefyd ar waredu, yn codi’r mater gyda’r Eglwys yng Nghymru yn ogystal â dwyn pwysau ar Gronfa Bensiwn yr Awdurdod Lleol i dynnu arian o gwmnïau tanwydd ffosil. Bu’r grŵp hefyd yn ymgyrchu’n ddygn yn erbyn Ffordd Liniaru yr M4 am lawer o flynyddoedd.
Yn ôl Carole Jacob, Cydlynydd Cyfeillion y Ddaear Torfaen:
“Rydym yn falch iawn o gael y wobr hon am yr hyn y mae Cyfeillion y Ddaear Torfaen wedi’i gyflawni dros y blynyddoedd. Rydym yn credu’n gryf yn yr hyn a wnawn, a hyn sydd wedi gwneud i ni ddal ati am y tri degawd diwethaf. Wrth gwrs, ni fyddai hyn wedi bod yn bosib heb gymorth llawer o’r bobl leol yma yn Nhorfaen, felly hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i bawb yn ein cymuned leol a’n helpodd ni.”
Ruthin
O gymharu â Thorfaen, mae Grŵp Cyfeillion y Ddaear Rhuthun yn weddol newydd ac wedi ennill y wobr am gael effaith gadarnhaol a phellgyrhaeddol ar y gymuned, a hynny dros amser byr. Mae’r grŵp eisoes wedi creu argraff ers iddo gychwyn yn 2019 wrth ddechrau caffi trwsio yn y dref, yn trefnu codi sbwriel, a helpu’r dref i ennill statws dim plastig efo Surfers Against Sewage.
Mae Cyfeillion y Ddaear Rhuthun yn gweithio gyda gwahanol grwpiau a mentrau cymdeithasol, ac ochr yn ochr â nhw. Mae hyn yn cynnwys Drosi, yn adnewyddu a thrydanu beics, a Bwyd Bendigedig [Incredible Edible], yn gofalu am botiau mewn llefydd amlwg yn y Dref a Rhandir Cymunedol ar y cyd â Chyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych.
Mae Cyfeillion y Ddaear Rhuthun hefyd yn gweithio gyda ReSource, yn uwch gylchu defnyddiau a fyddai wedi mynd i safle tirlenwi fel arall, ac ail-wneud plastigau hefyd; mae ganddynt ethos cynhwysol ac yn cynnig hyfforddiant i wirfoddolwyr o bob gallu. Bydd y cynaeafu afalau yn yr Hydref ar gyfer menter gydweithredol leol sydd yn gwneud sudd, yn golygu mwy o gyfleoedd i wirfoddoli a chydweithio. Mae tri digwyddiad ar y gweill cyn COP-26 er mwyn codi ymwybyddiaeth y cyhoedd a denu mwy o wirfoddolwyr i gefnogi amrywiol brosiectau Cyfeillion y Ddaear Rhuthun.
Meddai Jean Leith, Cydlynydd Cyfeillion y Ddaear Rhuthun:
“Bu’n ysbrydoliaeth fawr bod yn rhan o grŵp mor ymroddgar, yn gweithio ar draws cymaint o wahanol faterion amgylcheddol yn y gymuned leol.
Mae’n newydd da cael cydnabyddiaeth am waith y Grŵp gyda Gwobr Earthmovers Loteri Cod Post y Bobl."
Yn ôl Laura Chow, pennaeth elusennau Loteri Cod Post y Bobl:
“Mae Gwobrau Earthmovers yn cydnabod y gwaith caled a wneir ar hyd a lled y wlad i warchod yr amgylchedd. Rydw i’n falch ofnadwy bod cymorth gan chwaraewyr Loteri Cod Post y Bobl yn dathlu’r rôl hanfodol y mae grwpiau lleol yn ei chwarae i helpu eu cymuned i ffynnu.”