Cynllun Gweithredu Hinsawdd i Gymru - crynodeb

Published: 1 Sep 2020

Beth sydd ei angen arnom i sicrhau adferiad gwyrdd a theg i bobl a chymunedau yng Nghymru.

 

 

Mae Cymru ar groesffordd hollbwysig yn ei hanes ac mae angen iddi fynd i'r afael â sawl argyfwng – adferiad COVID-19, yr argyfwng hinsawdd ac ecolegol ac anghydraddoldebau parhaus yn ein cenedl. Efallai fod rhai yn credu y dylid blaenoriaethu cynnyrch domestig gros a thwf economaidd yn dilyn y niwed a achoswyd gan COVID-19. Serch hynny, rydym ni'n gwybod mai'r hyn sy'n bwysig yw pobl, cymunedau, a gwella'r byd i'n cenedlaethau ifanc. Mae angen Cynllun Gweithredu dros yr Hinsawdd manwl ar Gymru sy'n ein hachub rhag COVID-19 ac yn sicrhau dyfodol tecach a mwy cynaliadwy i'r bobl a'r blaned.  

Rydym wedi ysgrifennu cynllun manwl y gallwch ei lawrlwytho (darllenwch y Cynllun yn llawn), neu gallwch ddarllen ymlaen am grynodeb o'r prif bolisïau y dylai ein llywodraeth nesaf eu holrhain yn etholiadau'r Senedd yn 2021.

 

 

Llesiant dros Gynnyrch Domestig Gros  

Rhaid i Gymru ddilyn arweiniad Seland Newydd a blaenoriaethu safonau byw fel mesur cynnydd, yn hytrach na chynnyrch domestig gros. Gyda chymorth gan y cyhoedd, rhaid i'r llywodraeth nesaf ddatblygu a gweithredu Fframwaith Safonau Byw Cymru i sicrhau mai llesiant yw ffocws polisi economaidd. 

Mae'n rhaid i'r gyllideb gyllidol flynyddol gyd-fynd â'r fframwaith, yn yr un modd â phob cyhoeddiad polisi mawr (er enghraifft, y strategaeth isadeiledd, Cynlluniau Adfer wedi COVID-19, etc.)

 

Gwneud ein rhan i leihau allyriadau 

Nid yw ein llwybr lleihau carbon presennol - sy'n nodi sut a phryd y dylem gyflawni allyriadau carbon "sero net" - yn ddigon uchelgeisiol ac nid yw'n adlewyrchu'n briodol yr ymrwymiad yng Nghymru i fod yn gyfrifol yn fyd-eang. Rhaid diwygio Deddf yr Amgylchedd (Cymru) drwy reoliad i sefydlu llwybr newydd yn y gyfraith, gydag adroddiadau blynyddol i'r Senedd. Bydd hyn yn gofyn cyflawni sero net llawer cyn 2045. 

Ni ddylai Llywodraeth Cymru fuddsoddi (neu roi caniatâd i fuddsoddi) yn isadeiledd carbon uchel newydd, megis ffyrdd newydd neu orsafoedd pŵer a bwerir gan nwy sy'n mynd yn erbyn y nod sero net.

 

Diogelu'r bregus 

Bydd Cymru, fel gwledydd eraill, yn dioddef o fwy o ddigwyddiadau tywydd eithafol. Cafwyd difrod yng Nghymru yn ystod gaeaf 2019/20 yn sgil stormydd Ciara, Dennis a Jorge gyda dros 1,000 o dai dan ddŵr, a rhai wedi dioddef llifogydd unwaith eto yn ystod haf 2020. 

Dylai Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol adnabod y cymdogaethau hynny sydd mewn risg uchel o lifogydd neu wres eithafol, dan anfantais amgylcheddol, ac sydd â chyfran uchel o bobl fregus oddi mewn iddynt. Dylent flaenoriaethu gweithio gyda'r cymunedau hyn - ar ffurf gyfranogol megis cynulliadau neu reithgorau dinasyddion - i ddatblygu ac ariannu cynlluniau addasu ac atal hinsawdd cymunedol, gan gynnwys datrysiadau sy'n seiliedig ar natur.

 

Swyddi gwyrdd 

Mae'r economi ym mhob cwr o Gymru wedi dioddef oherwydd pandemig COVID-19. Bydd blaenoriaethu twf economi gwyrdd yn creu swyddi y mae galw mawr amdanynt, sydd yn yr un modd yn helpu'r rheiny a gollodd eu swyddi yn sgil y pandemig yn ogystal â chynyddu gwytnwch economaidd Cymru. 

Mae'r Sefydliad Materion Cymreig yn amcangyfrif y gellid creu dros 20,000 o swyddi drwy fuddsoddi mewn effeithiolrwydd ynni cartref ac uchafu'r potensial ynni adnewyddadwy sylweddol yng Nghymru. Yn ogystal, byddai gwaith yn cael ei greu drwy gryfhau'r grid trydan, storio ynni a rheoli ynni. 

Er y bydd y nifer o swyddi tanwydd ffosil a fydd yn cael eu colli yn isel iawn mewn cymhariaeth â photensial y swyddi newydd yn yr economi werdd, mae'n bwysig bod Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethu hyfforddiant i staff yn y diwydiant tanwyddau ffosil er mwyn sicrhau trawsnewidiad teg i economi werdd nad yw'n gadael unrhyw un ar ôl.

 

Trafnidiaeth 

Trafnidiaeth yw'r sector problemus yng Nghymru o ran allyriadau carbon, gyda gostyngiad bach yn yr allyriadau ers 1990.  

Mae newid cadarnhaol ar gyfer cymunedau a'r hinsawdd yn bosibl os caiff safonau gwasanaeth cyffredinol eu sefydlu a chaiff trafnidiaeth gyhoeddus (bysiau, tramiau a threnau) ei chydlynu a'i rheoli. Dylai aneddiadau gwledig gael gwasanaeth gwarantedig bob awr yn rhedeg o 6am tan hanner nos, tra dylai aneddiadau trefol dwysach gael gwasanaeth gwarantedig bob 15 munud. O ystyried effaith ariannol COVID-19 ar drafnidiaeth gyhoeddus, rhaid i Lywodraeth Cymru gyflymu'r gwaith o fasnachfreintio bysiau. 

Yn ogystal, rhaid i'r llywodraeth anelu at o leiaf dyblu'r gyfran o deithiau a wneir drwy gerdded, beicio a thrafnidiaeth gyhoeddus erbyn 2030. Dylai ddefnyddio mesurau a mentrau cyllidol i gyflawni hyn, megis: 

  • teithio am ddim ar fysiau  

  • teithio ar drenau yn rhatach  

  • grantiau ar gyfer e-feiciau.  

Os bydd Llywodraeth Cymru yn buddsoddi mewn llwybrau ar wahân a chynlluniau e-feiciau da, mae'r gyfran o deithiau sy'n bosibl gyda beic yn codi i 21% (hyd yn oed yng Nghymru fryniog!). 

Lle mae angen ceir, er enghraifft mewn mannau gwledig iawn, dylid annog a chefnogi mentrau rhannu ceir, gan gynnwys gan gyflogwyr.  

 

Llygredd aer 

Mae oddeutu 2,000 o farwolaethau cynnar yng Nghymru bob blwyddyn oherwydd llygredd aer, gyda'r lefelau gwaethaf yn cael eu cofnodi yn y mannau tlotaf. Mae'r llywodraeth wedi ymrwymo i rwydwaith monitro llygredd aer cenedlaethol newydd erbyn mis Rhagfyr 2021 ac yn addo lleihau llygryddion aer i fod yn is na chanllawiau Sefydliad Iechyd y Byd, ond rhaid iddi nawr wneud yr ymrwymiad hwnnw yn gyfraith drwy gyflwyno Deddf Aer Glân i Gymru.  

Bydd cyflawni'r gostyngiadau hynny yn golygu newid o ddefnyddio ceir i drafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol, yn ogystal â gofyn am weithredu mewn rhai ardaloedd ar losgi coed domestig mewn tanau agored a stofiau llosgi coed aneffeithlon, ac arferion amaethyddol, yn ogystal ag allyriadau diwydiannol. 

Dylid gweithredu Parthau Aer Glân yn gyflym ym mannau sydd â llygredd uchel, gyda gweithredu targedig ar unwaith yng Nghaerdydd, Abertawe a Chasnewydd. 

 

Mannau gwyrdd a natur 

Mae mannau gwyrdd o ansawdd dda yn llesol i'r blaned  ond maent hefyd yn fanteisiol i'n llesiant corfforol a meddyliol. 

Dylai darparu man gwyrdd cyhoeddus digonol ar gyfer pob aelwyd yng Nghymru o fewn taith gerdded 5 munud fod yn flaenoriaeth i'r llywodraeth. Er mwyn helpu i gyflawni'r targed hwn, gallai'r llywodraeth: 

  • wneud rhai ffyrdd yn agored i gerddwyr, beicwyr a phreswylwyr yn unig 

  • ail-bwrpasu meysydd parcio 

  • agor mannau gwyrdd sydd wedi cau i'r cyhoedd ar hyn o bryd. 

Dylai Llywodraeth Cymru wneud dyhead o 100,000 hectar o goetir newydd erbyn 2030 yn darged swyddogol a chynyddu'r cyllid i sicrhau y caiff y dyddiad cau ei fodloni. Yn ogystal, dylai gefnogi mentrau plannu coed yn ardaloedd trefol i leiafswm o 20% o orchudd coed a gwarchod coed a mannau gwyrdd cyhoeddus cyfredol. 

 

Bwyd a ffermio 

Mae ffermio yn hollbwysig i Gymru, yn ddiwylliannol ac economaidd. Mae'r rhan fwyaf o ffermwyr yn deall yr argyfwng hinsawdd ac ecolegol ac yn gwybod bod angen newid. Wedi dweud hynny, yn nifer o achosion nid yw'r arferion cyfredol yn ddigon cynaliadwy. Rhaid i Lywodraeth Cymru ymrwymo i strategaeth ffermio sy'n canolbwyntio ar gynnyrch o safon gan adfer natur a lleihau allyriadau carbon ac enciliad. Byddai ymrwymiad i gynnal y gwaharddiad ar gnydau GM yn ffurfio rhan o hyn. 

Rhaid i'r strategaeth gefnogi ffermwyr i bontio i ddulliau ffermio mwy cynaliadwy, yn ogystal â chefnogi amrywiad (er enghraifft, drwy gynyddu'r coed sy'n cael eu cynhyrchu yng Nghymru). 

Dylai pob caffaeliad cyhoeddus am fwyd flaenoriaethu prynu bwyd sydd wedi'i gynhyrchu yng Nghymru, a bodloni safonau bwyta'n iach sy'n gofyn gostyngiad sylweddol yn y cig a chynnyrch llaeth sy'n cael eu bwyta. Byddai sefydlu eco-label gwirfoddol yng Nghymru er mwyn pwysleisio cynnyrch sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd yn helpu gyda hyn. 

 

Cartrefi 

Dim ond traean o eiddo yng Nghymru sydd wedi'u hinswleiddio'n dda ac mae 12% o aelwydydd mewn tlodi tanwydd. Dylai Llywodraeth Cymru wneud effeithiolrwydd ynni yn flaenoriaeth drwy gynyddu cyllid a gwthio am fwy o bwerau datganoledig i wella effeithiolrwydd yng nghartrefi perchnogion-feddianwyr a'r sector rhent preifat. 

Rhaid i ddatblygiadau tai newydd gael eu hadeiladu gyda hinsawdd a chynaliadwyedd mewn golwg –  rhaid i waith cynllunio polisïau sicrhau bod tai: 

  • wedi'u lleoli lle mae trafnidiaeth gyhoeddus o ansawdd dda ac isadeiledd beicio a cherdded yn unig 

  • yn rhydd rhag ynni tanwyddau ffosil 

  • yn effeithlon o ran ynni ac yn addas ar gyfer rhagor o dywydd eithafol yn y dyfodol. 

 

Ynni adnewyddadwy 

Un o'r prif ffyrdd y gallwn liniaru chwalfa'r hinsawdd yw trosi o danwyddau ffosil i ynni adnewyddadwy. Targed cyfredol Llywodraeth Cymru yw i 70% o drydan ddod o ynni adnewyddadwy erbyn 2030, ond dylid ymestyn y nod hwnnw i 100% erbyn 2035, gan gynnwys drwy gapasiti ynni adnewyddadwy a berchnogir gan y gymuned. 

Rhaid i Lywodraeth Cymru ddefnyddio'r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol sydd i ddod i wneud Cymru mor ddeniadol â'r Alban ar gyfer ynni adnewyddadwy a storio mewn adeiladau newydd, a lobïo i sicrhau bod y rhwystrau yn cael eu goresgyn. Dylai strategaeth ddiwydiannol ynni adnewyddadwy Cymru fanteisio ar arbenigedd prifysgolion ac ar ddeinameg busnesau newydd, ac mae angen ymrwymiad gwleidyddol cryf arni hefyd i sicrhau ei bod yn llwyddo. 

 

Defnydd a gwastraff 

Mae Cymru ar y blaen i weddill y DU ym maes gwastraff ac ailgylchu ac yn ymfalchïo o gyflawni'r lefel ailgylchu trydydd gorau yn y byd. Ond mae lle i wella eto. Dylem ddod â'r nod diwastraff ymlaen o 2050 i 2030 a datblygu economi mwy cylchol.  

Er na all y llywodraeth reoli sut caiff cynhyrchion eu dylunio (na pa mor ailgylchadwy ydyn nhw), gallai ymgymryd â mesurau eraill i annog economi mwy cylchol a chyflawni'r nod diwastraff erbyn 2030 (yn hytrach na'r targed 2050 cyfredol). Mae'r rhain yn cynnwys: 

  • Diddymu'r defnydd o ddau losgwr yn ne Cymru a gwrthod rhoi caniatâd i unrhyw losgwyr newydd. 

  • Defnyddio'r holl ysgogiadau polisi fel y mynnai i leihau gwastraff ac annog yr arfer o ailddefnyddio, megis cynlluniau dychwelyd ernes ar gyfer poteli diod. 

  • Creu "siop un stop" ar-lein ar gyfer gwybodaeth a chyngor i'r cyhoedd, (i ymdrin â materion mor amrywiol â "sut i sefydlu siop atgyweirio?" i "sut i gael gwared ar hen fatres?"). 

  • Anelu at fod yn arweinydd byd-eang mewn caffael cynaliadwy gan ddefnyddio ei phŵer prynu i leihau effeithiau negyddol ar yr amgylchedd gartref a thramor. 

 

 

Share this page