Cymru i gael cynllun dychwelyd cynhwysydd diod yn 2025
Published: 27 Jan 2023
Heddiw (Dydd Gwener, 20 Ionawr) cyhoeddodd Julie Jones, Gweinidog dros Newid Hinsawdd, y bydd gan Gymru gynllun dychwelyd ernes (DRS) yn 2025.
Mae hynny’n golygu pan rydym yn prynu diod mewn cynhwysydd untro, byddwn yn talu swm bach o arian, y gallwn ei gael yn ôl pan fyddwn yn dychwelyd y botel neu gan.
Bydd y DRS yn gynllun ar y cyd gyda Lloegr a Gogledd Iwerddon, felly, er enghraifft, os ydych yn prynu diod yn y Barri, gallwch ei ddychwelyd ym Mryste neu Belfast- ond yn anffodus ni fyddwch yn gallu dychwelyd unrhyw ganiau neu boteli a brynir yng Nghymru, Lloegr neu Ogledd Iwerddon i unrhyw le yn yr Alban gan fod y wlad hon yn sefydlu cynllun ar wahân.
Mae 10 gwlad yn Ewrop eisoes yn elwa o DRS- Croatia, Denmarc, Estonia, y Ffindir, yr Almaen, Gwlad yr Iâ, Lithwania, yr Iseldiroedd, Norwy a Sweden.
Mae ymchwiliad diweddar gan y Pwyllgor Archwilio Amgylcheddol yn dangos bod DRS yn gallu gwella cyfraddau ailgylchu poteli plastig.
Yn ei gyhoeddiad, dywedodd Llywodraeth Cymru:
'Drwy’r cymhelliad ariannol a ddarperir i brynwyr ddychwelyd eu cynhwysydd diod untro, amcangyfrifir, ar ôl tair blynedd o’r cynllun, y bydd 85% yn llai o gynhwysion diod yn cael eu gwaredu fel sbwriel, gyda tharged i gasglu dros 90% o gynhwysion diod y gellir eu dychwelyd unwaith fo’r cynllun yn weithredol.’
Dywedodd Bleddyn Lake, Rheolwr Ymgyrchoedd a Datblygiad, Cyfeillion y Ddaear Cymru:
“Mae cyflwyno Cynllun Dychwelyd Ernes (DRS) ar gyfer cynhwyswyr diodydd yn rhywbeth y mae ymgyrchwyr wedi bod yn galw amdano ers degawdau yn awr, ac felly mae’r cyhoeddiad hwn yn cael ei groesawu’n fawr.
“Mae cynlluniau dychwelyd ernes eisoes wedi bod yn llwyddiannus mewn gwledydd a thaleithiau ar draws y byd.
“Gallent helpu i newid ymddygiad, helpu i leihau allyriadau newid hinsawdd, helpu sicrhau bod y deunyddiau a gesglir o ansawdd gwell, felly mwy o ddefnydd o ddeunyddiau a ailgylchwyd, a gall hefyd helpu i leihau y nifer hurt o sbwriel rydym yn ei weld ar ein strydoedd ac yn ein cyrsiau dŵr.
“Cystal ag yw’r cynlluniau hyn, mae’n dal yn bwysig i nodi er hynny, mai’r peth gorau y gallwn ei wneud yn syml yw peidio â chynhyrchu cymaint o bethau yn y lle cyntaf.
“Felly ewch â’ch cynhwyswyr diodydd y gellir eu hail-lenwi allan gyda chi, eu hail-lenwi yn un o’n nifer o orsafoedd ail-lenwi sydd gennym yng Nghymru yn awr, ac yna cheisio â phrynu llai o gynhwyswyr diodydd eraill rydych yn eu prynu yn y lle cyntaf.”