Cyhoeddi rhaglen effeithlonrwydd ynni newydd yn ystod trafodaeth Senedd

Published: 15 Jun 2023

Bu’r Senedd yn trafod themâu ymgyrch Cynnes Gaeaf Yma heddiw (14/06/23) Cefnogodd Aelodau’r Senedd y ddadl yn unfrydol, a’r egwyddorion sy’n sail iddi.
The Senedd Siambr
Senedd Cymru CC BY 2.0 

Cyflwynodd Hefin David MS y ddadl, gyda chefnogaeth 14 Aelod Seneddol arall ar draws y rhaniad gwleidyddol.

Mae ymgyrchwyr yn falch bod ASau wedi pleidleisio i gefnogi Cynnes Gaeaf Yma Cymru. Yn ystod y ddadl cafwyd areithiau angerddol gan ASau o bob plaid, yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi teuluoedd Cymru bob gaeaf, gyda mwy o gefnogaeth i aelwydydd bregus, yn ailadrodd cefnogaeth i wahardd mesuryddion rhagdalu, yn ogystal â chefnogaeth i brosiectau ynni adnewyddadwy cymunedol ledled Cymru.

 

Dywedodd 80 y cant o’r rhai a ymatebodd i arolwg costau byw a gynhaliwyd gan Cynnes Gaeaf Yma Cymru eu bod wedi cael trafferth fforddio biliau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, gyda 93% yn dweud y byddent yn cefnogi mwy o fesurau effeithlonrwydd ynni pe bai’n golygu y byddai’n helpu i gefnogi nhw gyda'u biliau ynni.

Mae'r ymgyrch wedi canolbwyntio ar gydnabod bod atebion ar y cyd i gostau byw ac argyfyngau ynni, a'r argyfwng hinsawdd.

 

Image removed.

Dywedodd Bethan Sayed o Climate Cymru:

Photo of Bethan Sayed
Bethan Sayed

"Rydym wrth ein bodd bod y Senedd wedi pleidleisio i gefnogi ein cynnig heddiw. Mae Llywodraeth Cymru yn aml yn ymatal ar ddadleuon aelodau o'r fath, felly rydym yn cydnabod eu bod wedi gweld pa mor ddilys yw ein gofynion, ac wedi gwrando ar ymgyrchwyr yn y sector hwn. Rydym am weld mwy o fesurau effeithlonrwydd ynni ac uwchraddio ynni adnewyddadwy yng Nghymru, er mwyn sicrhau y gall Cymru elwa o adnoddau naturiol ein hun, a bod cymunedau’n gallu elwa o’r cynlluniau.

 Pan fydd gennym argyfwng costau byw, mae’n bwysig i ni chwilio am atebion, a gwyddom fod gennym ddigonedd ohonynt yma yng Nghymru.

Rydym yn ddiolchgar i’r Aelodau Seneddol a gymerodd ran yn y ddadl, ac yn edrych ymlaen at chwarae ein rhan yn cefnogi gweithrediad y rhaglen effeithlonrwydd ynni Cartrefi Clyd newydd a gyhoeddwyd gan y Gweinidog Newid Hinsawdd drwy ddatganiad ysgrifenedig, a ryddhawyd yn ystod cyfnod y ddadl.'

 

Dywedodd Haf Elgar, Cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru:

Photo of Haf Elgar
Haf Elgar

“Nid yw problemau’r gaeaf diwethaf o gartrefi’n gollwng gwres a biliau tanwydd uchel iawn wedi diflannu ac mae’r argyfwng costau byw yn parhau i fod yn frwydr ddyddiol ledled Cymru. Rhaid i ni wneud yn siŵr bod camau'n cael eu cymryd nawr i wneud cartrefi'n fwy ynni-effeithlon – i ostwng biliau ac allyriadau carbon
 

Rydym yn croesawu’r datganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru heddiw yn amlinellu eu cynllun ar gyfer y rhaglen Cartrefi Clyd nesaf. Mae miloedd o bobl ledled Cymru, yn ogystal ag Aelodau’r Senedd o bob plaid, wedi bod yn galw am hyn.

Mae angen i ni gael y manylion ar fyrder, a rhaglen ar waith ar gyfer y gaeaf nesaf. Mae’r argyfwng hwn yn fwy brys nag erioed – ac mae angen amserlenni ac arian sy’n cyfateb i anghenion y rhai sy’n byw mewn cartrefi oer ac wrth fynd i’r afael â newid hinsawdd.”

 

Share this page